Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Tegan Smith ei arestio ar ôl cael ei weld yn reidio beic trydan drwy ardal chwarae i blant yng Nghaerau, Caerdydd.
Roedd swyddogion ar batrôl mewn dillad plaen ym Mharc Trelái mewn ymateb i bryderon y gymuned am ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyffuriau.
Daethant yn amheus pan welsant gyrrwr y beic yn cymryd rhan mewn dêl cyffuriau.
Cafodd Smith, 20 oed, ei arestio a chanfuwyd bod ganddo werth £4,000 o gyffuriau Dosbarth A mewn amrywiaeth o becynnau, pedwar ffôn symudol ac arian parod yn ei feddiant.
Roedd un o'r ffonau yn cynnwys negeseuon yn dyddio'n ôl i fis Ionawr lle roedd wedi bod yn cynnig cyflenwi cyffuriau a reolir.
Yn dilyn ei arestiad brynhawn dydd Llun 10 Mawrth, plediodd Smith yn euog i ymwneud â chyflenwi cyffuriau a reolir Dosbarth A, sef crac cocên a heroin, bod â chyffur a reolir Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, sef crac cocên, cocên a heroin, a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ddoe (Dydd Mawrth 8 Ebrill) i dair blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas â delio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw hyn o'r gwaith rydym yn ei gyflawni.
Ni fyddwn yn goddef cyffuriau yn ein cymunedau, ac rydym yn targedu'r rhai y credir eu bod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau a reolir yn barhaus.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu a chydweithio â ni.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.