Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn o Abertawe wedi cael eu carcharu am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Bu Paul Morgan, 41 oed o ganol dinas Abertawe, yn destun gwarant chwilio yn ei gyfeiriad cartref ym mis Rhagfyr 2024.
Yn ystod y warant, gwelwyd Kieran Jones-Mathias, 31 oed o Bentrechwyth, yr oedd yr Heddlu yn chwilio amdano ar y pryd, yn gadael y cyfeiriad ar sgwter. Canfuwyd bod gan Jones-Mathais ddau ffôn symudol yn ei feddiant, a oedd yn cynnwys negeseuon yn ei gysylltu â chyflenwi cyffuriau.
Cafodd Matthew Ace, 37 oed o Dreforys, hefyd ei ganfod yn ystod y warant yng nghyfeiriad Paul Morgan. Daethpwyd o hyd i fwy na 85g o gocên yn ystod y warant, yn ogystal â thua £3,000 mewn arian parod.
Mae Matthew Ace wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a 41 mis yn y carchar. Mae Paul Morgan wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a naw mis yn y carchar. Mae Kieran Jones-Mathias wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Luke Tucker:
"Penderfynodd Paul Morgan, Matthew Ace a Kieran Jones-Mathias fod yn rhan o'r fasnach gyffuriau gan wybod bod yr hyn roeddent yn ei wneud yn anghyfreithlon. Cafodd hyn ei amlygu'n fwy byth wrth i'r ddau geisio ffoi o gyfeiriad Paul Morgan ar adeg y warant.
"Fel llawer o bobl eraill cyn hyn, nid yw eu gweithgareddau anghyfreithlon wedi talu ffordd. Yn lle hynny, maent yn dechrau cyfnod o sawl blwyddyn yn y carchar.
"Dylai'r achos hwn fod yn enghraifft arall i'r rhai sy'n ymwneud â'r fasnach gyffuriau – byddwch yn cael eich adnabod, a byddwch yn cael eich dwyn i gyfrif."