Stamp amser presennol: 21/05/25 00:25:57
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Naw aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol a thri chwsmer wedi'u carcharu yn dilyn ymchwiliad i achosion o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B ledled De Cymru

Cynnwys y prif erthygl

Abertawe/Castell-nedd Port Talbot Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 11:20 15/04/25
Op_Shelduck_optimized.png
Ymgyrch Shelduck

 

Mae 12 o ddynion wedi cael eu carcharu yn dilyn ymchwiliad i grŵp troseddau cyfundrefnol yn Abertawe.

Rhoddwyd ymgyrch Shelduck, a gynhaliwyd gan Dîm Troseddau Cyfundrefnol Abertawe, Castell Nedd a Phort Talbot, ar waith er mwyn ymchwilio i achosion o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B, ar ôl i Abdul Mozid gael ei arestio am drosedd nad oedd yn gysylltiedig â chyffuriau ym mis Tachwedd 2023.

Dangosodd ffôn symudol ym meddiant Mozid pan gafodd ei arestio dystiolaeth mai ef oedd prif aelod cynllwyn ar raddfa fawr i gyflenwi cyffuriau a reolir gan gynnwys cocên, MDMA, canabis a chetamin.

Roedd Mozid yn cyfarwyddo'r ymgyrch ar raddfa fawr i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B i mewn i Abertawe yn ogystal ag ardaloedd yn cynnwys y Pîl, Caerdydd, Caerfyrddin a Bryste, a daethpwyd o hyd i dystiolaeth o rwydwaith gyflenwi sylweddol.

Defnyddiodd y grŵp troseddau cyfundrefnol nifer o lwyfannau sgwrsio wedi'u hamgryptio gan gynnwys Telegram, Signal, WhatsApp a Snapchat. Mae'r llwyfannau hyn yn galluogi'r defnyddiwr i ddefnyddio "dolenni" neu enwau defnyddiwr yn lle rhoi gwybodaeth bersonol. Drwy ddefnyddio'r gwefannau hyn, roedd aelodau o'r grŵp troseddau cyfundrefnol yn ceisio osgoi camau gorfodi'r gyfraith drwy aros yn ddienw. Fodd bynnag, bu modd priodoli naw dyn i enwau defnyddwyr a oedd wedi bod yn anfon negeseuon yn ymwneud â gweithgarwch cyflenwi cyffuriau y grŵp troseddau cyfundrefnol.

Nodwyd bod rhai o'r dynion – Ruhel Chowdhury, Mohammed Hanif Miah, Moinul Islam a Mohammed Robbani – yn gweithio ochr yn ochr â Mozid fel rhan o ymgyrch y grŵp troseddau cyfundrefnol. Nodwyd bod y dynion eraill – Levi Edwards, Bryan Clark, Mohammed Rahman a Diamant Halili – yn 'rhedeg' neu'n cludo cyffuriau ar ran y grŵp troseddau cyfundrefnol.

Nodwyd hefyd sawl cwsmer swmp a oedd wedi derbyn symiau sylweddol o gyffuriau a reolir gan y grŵp troseddau cyfundrefnol. Cafodd y cwsmeriaid hyn – Mohammed Jubair Uddin, Abul Hushain a Jamshed Khan – eu harestio ar wahân i'r naw prif ddiffynnydd ac maent eisoes wedi'u dedfrydu ar ôl iddynt bledio'n euog. Profwyd bod pob un ohonynt yn gwsmeriaid ar raddfa fawr y grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd, yn eu tro, yn rhedeg eu hymgyrch cyflenwi cyffuriau eu hunain.

Roedd y grŵp troseddau cyfundrefnol yn defnyddio safle ar Finsbury Terrace, Brynmill, Abertawe fel 'lle diogel'. Daethpwyd o hyd i swm sylweddol o gyffuriau Dosbarth A a B yn ogystal ag arian parod yn ystod gwarant chwilio yn y cyfeiriad:

  • Atafaelwyd dros £45,000 mewn arian parod
  • Ataliwyd £44,000 o arian parod (enillion troseddau)
  • Ataliwyd £12,000 o gryptoarian (enillion troseddau)
  • 6.2 cilogram o gocên
  • 31.5 gram o grac cocên
  • 228 gram o bowdr MDMA
  • 970 o dabledi MDMA
  • 2.3 cilogram o getamin
  • 8 cilogram o ganabis
  • 2.4 cilogram o gyfrwng cymysgu

Plediodd pob un o'r diffynyddion yn euog a chawsant eu dedfrydu ym mis Ebrill 2025:

  • Abdul Mozid – 10 mlynedd ac 8 mis yn y carchar
  • Mohammed Hanif Miah – 10 mlynedd a 6 mis yn y carchar
  • Ruhel Chowdhury – 9 mlynedd yn y carchar
  • Moinul Islam – 7 mlynedd yn y carchar
  • Mohammed Robbani – 4 blynedd a 5 mis yn y carchar
  • Diamant Halili – 4 blynedd a 9 mis yn y carchar
  • Levi Edwards – 3 blynedd a 9 mis yn y carchar
  • Bryan Clarke – 3 blynedd a 9 mis yn y carchar
  • Mohammed Rahman – 3 blynedd a 9 mis yn y carchar

Dangoswyd bod y tri diffynnydd canlynol yn gwsmeriaid swmp y grŵp troseddau cyfundrefnol ac yn rhedeg eu hymgyrch cyflenwi cyffuriau eu hunain, ac maent eisoes wedi cael eu dedfrydu:

  • Jamshed Khan – 3 mlynedd yn y carchar
  • Mohammed Jubair Uddin – 4 blynedd yn y carchar
  • Abul Hushain – 6 blynedd a 5 mis yn y carchar a gwaharddiad rhag gyrru am 62 mis

Dywedodd y Ditectif Ringyll Ian Foster:

"Mae ymgyrch Shelduck wedi bod yn ymchwiliad cymhleth iawn i grŵp o ddynion nad oeddent yn poeni am ddim heblaw elwa ar gyflenwi cyffuriau i'n cymunedau.
"Fel llawer o rai eraill cyn hyn sydd wedi meddwl mewn ffordd debyg, nid yw hyn wedi gweithio iddynt, ac maent nawr yn dechrau cyfnod sylweddol yn y carchar.
"Hoffwn gydnabod gwaith Swyddogion Safleoedd Troseddau, yr Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd, COMU, y dadansoddwr a'r ymchwilydd ariannol.
"Hefyd, gwaith y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth, y Tîm Cymorth Tiriogaethol, y Tîm Troseddau Cyfundrefnol a'r Cwnstabliaid Gwirfoddol gan mai diwrnod y gwarantau oedd diwrnod pwysicaf yr ymchwiliad.
"Hoffwn gydnabod gwaith y swyddog yn yr achos, PC Owen Smith, a fu'n hanfodol wrth sicrhau'r dedfrydau hyn ar gyfer pawb a oedd yn rhan o'r grŵp troseddau cyfundrefnol."

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.