Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Orllewin Canolbarth Lloegr wedi cael ei garcharu ar ôl ei gael yn euog o ddau achos o dreisio a ddigwyddodd yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Plediodd Johnathan Sutton, dyn 35 oed o Walsall, yn ddieuog i'r troseddau, a ddigwyddodd ym mis Mehefin ac Awst 2021 yng Nghwmafan, mewn cyfeiriad lle roedd Sutton yn byw ar y pryd
Fodd bynnag, cafwyd ef yn euog yn Llys y Goron Abertawe, ac mae wedi cael ei ddedfrydu yr wythnos hon.
Cafodd ddedfryd estynedig o 18 mlynedd yn y carchar am ddau achos o dreisio yn erbyn dau ddioddefwr gwahanol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gary Willis-Hill:
"Roedd Johnathan Sutton yn amlwg yn ddyn peryglus a fanteisiodd ar ddioddefwyr pa roedd yn teimlo ei fod yn gallu eu rheoli.
"Drwy bledio'n ddieuog i'r troseddau hyn, mae wedi dangos nad oes ganddo unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd, a'r effaith y mae ei weithredoedd wedi ei chael ar fywydau a llesiant ei ddioddefwyr.
"Bydd bellach yn y carchar am gyfnod sylweddol o amser."