Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio menyw 48 oed yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr, yn gynharach y mis hwn.
Cafodd swyddogion eu galw ychydig ar ôl 9.15pm nos Wener, 18 Ebrill, oherwydd pryder am les dau berson mewn eiddo ar Bryn Terrace. Ar ôl cyrraedd, daethant o hyd i gorff Tracey Davies (Young gynt).
Cafodd Michael Davies, 56 oed o Gefn Cribwr, ei arestio yn y fan a'r lle ar amheuaeth o lofruddio Tracey. Heddiw, mae wedi cael ei gyhuddo o'r drosedd hon, a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yfory am 10am.
Mae perthnasau agosaf Tracey wedi'u hysbysu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton, o'r Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr:
“Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad eithriadol o anodd i'r gymuned yng Nghefn Cribwr. Mae ein cydymdeimladau o hyd gyda theulu a ffrindiau Tracey.
“Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.”