Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Liam Devois, 19 oed o Drefansel, ei adnabod yn ystod ymchwiliad nad oedd yn gysylltiedig ag ef pan gafodd ei negeseuon mewn perthynas â chyffuriau eu gweld ar ffôn symudol.
Ym mis Mawrth, aeth swyddogion i'w gyfeiriad cartref, lle daethpwyd o hyd i symiau o cetamin a chanabis ynghyd â nifer o eitemau cyfarpar cyffuriau.
Roedd ffôn Devois yn cynnwys tystiolaeth ohono yn hysbysebu cyffuriau gan gynnwys cocên ar werth.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Luke Tucker:
“Mae rhan Liam Devois yn y fasnach gyffuriau anghyfreithlon bellach wedi costio blynyddoedd o'i ryddid.
“Yn amlwg, nid yw wedi dysgu ei wers o'i ddedfryd flaenorol am drosedd debyg.
“Nid yw delio cyffuriau yn talu. Yr unig wobr y bydd delwyr cyffuriau yn ei chael yw dedfryd hir o garchar.”