Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, yn ogystal â mewnforio arf.
Andrew Hanley, 33 oed o Townhill, oedd gwir dderbyniwr parsel a oedd yn cynnwys baton heddlu estynadwy a gafodd ei atal gan Heddlu'r Ffiniau ym mis Tachwedd 2024.
Pan aeth swyddogion i chwilio cyfeiriad Hanley, daethant o hyd i bedwar bag brechdan mawr a oedd yn cynnwys swm sylweddol o bowdr gwyn. Yna, cyfeiriodd Hanley y swyddogion at nifer o sylweddau eraill a oedd wedi'u storio yn y cyfeiriad.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 42 mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Geraint Thomas:
“Gan fod symiau uchel iawn o gyffuriau yng nghartref Andrew Hanley, nid oes amheuaeth mai ei fwriad oedd cyflenwi'r cyffuriau hyn i bobl eraill yn y gymuned.
“Fel pob deliwr cyffuriau arall, unig gymhelliad Andrew Hanley oedd elwa'n ariannol, ac nid oedd yn poeni dim am yr effaith negyddol y byddai'r cyffuriau hyn yn ei chael ar y rhai oedd yn eu prynu.
“Mae bellach yn dechrau dedfryd yn y carchar am ei weithredoedd.”