Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ffigurau newydd yn dangos bod mwy na £5.6m wedi cael ei golli i dwyll buddsoddi gan bobl yn Ne Cymru y llynedd.
Twyll buddsoddi yw pan fydd troseddwyr yn cysylltu ag unigolion, yn aml yn ddirybudd, ac yn eu perswadio i fuddsoddi mewn cynlluniau neu gynnyrch sydd naill ai'n ddiwerth neu'n gwbl ffug. Efallai y bydd twyllwyr yn honni eu bod yn cynnig cyfleoedd mewn cyfnewidfeydd tramor, aur a metalau gwerthfawr eraill, eiddo cyfran gyfnodol tramor, neu gryptoarian – gan addo elw afrealistig o uchel sy'n fwy o lawer na thueddiadau arferol y farchnad.
Yn 2024, cafodd Action Fraud dros 25,843 o adroddiadau mewn perthynas â thwyll buddsoddi, gyda dioddefwyr yn colli cyfanswm o £649. Cafwyd cyfanswm o 300 o adroddiadau o'r fath gan bobl yn Ne Cymru, gyda chyfanswm o £5,605,119 yn cael ei golli.
Cryptoarian oedd yr ased mwyaf cyffredin yr oedd twyllwyr yn honni eu bod yn buddsoddi ynddo, gan gyfrif am 66% o'r holl adroddiadau.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Oliver Little, o Heddlu Dinas Llundain:
“Efallai ei fod yn amlwg, ond byddem yn pwysleisio'r hen fantra ‘os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n hynny'n debygol iawn”.
“Bydd twyllwyr buddsoddi yn aml yn hynod fedrus yn yr hyn y maent yn ei wneud a byddant yn cyflwyno cynnig argyhoeddiadol a deniadol yn nodi'r holl arian y gallant ei ennill i chi, yn aml mewn cyfnod byr o amser. Peidiwch â chael eich swyno gan yr addewid o wneud “arian hawdd” gan nad yw byd stociau a chyfranddaliadau yn gweithio fel hynny.
“P'un a yw'n £200 neu'n £200,000, mae ein cyngor bob amser yr un fath – gwnewch waith ymchwil yn annibynnol, cadarnhewch fod y cwmni wedi cofrestru â'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a pheidiwch byth â chymryd cyngor ariannol drwy gyfryngau cymdeithasol neu gan bobl sydd wedi cysylltu â chi yn ddirybudd. Petai gwneud elw ar fuddsoddiad mor hawdd â hynny, byddai pob un ohonom yn gwybod amdano.”
Gwnaeth y cyfryngau cymdeithasol barhau fel adnodd allweddol ar gyfer twyllwyr mwyfwy soffistigedig, gyda'r heddlu yn rhybuddio am dwyllwyr yn cysylltu drwy gyfryngau cymdeithasol neu lwyfannau negeseua, gan honni eu bod yn fuddsoddwyr neu'n fasnachwyr ac yn cynnig elw mawr.
Mae'r data hefyd yn dangos bod twyllwyr yn aml yn dynwared ffigyrau cyhoeddus er mwyn ceisio ennyn hygrededd, gyda Martin Lewis y 'Money Saving Expert' yn cael ei ddefnyddio amlaf fel ffug hunaniaeth. Roed mwy na dau o bob tri achos lle cafodd Lewis – wyneb cyfarwydd ar y teledu yn ystod y dydd – ei ddynwared wedi targedu pobl 60 oed a throsodd. Cafodd perchennog X, Elon Musk, a'r cyflwynydd teledu adnabyddus, Jeremy Clarkson, eu dynwared yn rheolaidd hefyd.
Fel bob amser, os bydd cyfle buddsoddi yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae bron yn sicr ei fod.
Fel canllaw cyffredinol, mae buddsoddiadau dilys yn yr FTSE 100 fel arfer yn ennill elw blynyddol o 4-5.5%. Dylid ymdrin ag unrhyw un sy'n addo elw sicr o 10%, 12% neu hyd yn oed 20% yn ofalus iawn – mae cynigion o'r fath ymhell y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol y farchnad.
Beth i gadw llygad amdano:
Sut i ddiogelu eich hun rhag twyll buddsoddi:
Rhagor o wybodaeth am fuddsoddi'n ddiogel: https://www.fca.org.uk/scamsmart
Os ydych chi'n ddioddefwr twyll buddsoddi:
Gallwch hefyd gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar 0800 111 6768 neu roi gwybod am fusnesau neu unigolion amheus gan ddefnyddio'r ffurflen adrodd ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Os ydych chi wedi dioddef twyll neu seiberdrosedd, rhowch wybod amdano yn www.actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Dysgwch fwy am sut y gallwch ddiogelu eich hun rhag twyll yn: https://stopthinkfraud.campaign.gov.uk
Dysgwch fwy am dwyll, y mathau niferus sy’n bodoli, a sut gallwch ei riportio, yma.
Os ydych chi wedi dioddef sgam, twyll neu drosedd ar-lein (seiberdrosedd) gallwch riportio’r peth i Action Fraud:
Action Fraud yw'r ganolfan riportio genedlaethol ar gyfer twyll a seiberdroseddau. Mae'n casglu adroddiadau am dwyll ar ran heddluoedd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.