Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall pob arf tanio – p'un a yw'n gyfreithlon neu'n anghyfreithlon – fod yn angheuol yn y dwylo anghywir.
Dyma pam ein bod yn cefnogi mis ildio arfau tanio cenedlaethol drwy gydol mis Chwefror, lle anogir y cyhoedd i drosglwyddo unrhyw arfau neu fwledi a chetris i orsaf heddlu leol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Williams, arweinydd troseddau drylliau Heddlu De Cymru:
“Mae ildio arfau tanio yn rhoi'r cyfle i'r cyhoedd ildio unrhyw arfau tanio anghyfreithlon neu ddiangen yn ddiogel, y gall nifer ohonynt fod yn nwylo pobl nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn anghyfreithlon.
“Er enghraifft, roedd newid i'r ddeddfwriaeth yn ymwneud â ‘gynnau tanio ergydion gwag’ tuag at ddiwedd 2024, sy'n golygu ei bod bellach yn anghyfreithlon meddu ar fodelau penodol, ac mae'n bosibl na fyddai rhai pobl yn ymwybodol o hynny.
“Fel rhan o'r cyfnod ildio, gall aelodau o'r cyhoedd fynd ag arfau tanio i un o wyth gorsaf heddlu ddynodedig ledled de Cymru a'u cyflwyno dros y cownter blaen.
“Dylai ein cymunedau fod yn dawel eu meddwl bod cyfraddau troseddau drylliau yn ne Cymru yn parhau i fod yn isel iawn, ac rydym am gadw pethau fel hyn.
“Yn ogystal ag arfau tanio traddodiadol fel drylliau a phistolau, gall arfau tanio ffug, fel gwn BB neu arf aer, gael eu defnyddio i achosi anaf neu gyflawni troseddau difrifol. Felly, bydd pob arf tanio a gyflwynir yn golygu y bydd un arf tanio yn llai yn mynd i ddwylo troseddwr.”
Er y gellir cyflwyno arfau tanio ac arfau eraill i'r heddlu unrhyw bryd, diben y misoedd ildio fel hyn yw codi ymwybyddiaeth o droseddau drylliau a'r rhan y gall y cyhoedd ei chwarae wrth helpu i gadw de Cymru yn ddiogel.
Yn ystod y mis ildio diwethaf, cafodd 83 o eitemau eu cyflwyno i orsafoedd yr heddlu yn ne Cymru, gyda 53 ohonynt yn arfau tanio.
Ymhlith y rheini sydd wedi ildio eitemau roedd ysgol a grŵp sgowtiaid.
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Williams:
“Roedd canlyniadau'r cyfnod ildio diwethaf yn hynod gadarnhaol.
“Yn aml, gall fod diffyg ymwybyddiaeth o gyfreithlondeb arfau gwahanol, neu ddiffyg dealltwriaeth am y ffordd orau o gael gwared arnynt. Er enghraifft, roedd yr ysgol a ildiodd y tro diwethaf wedi atafaelu arf aer ac wedi'i storio'n ddiogel gan nad oedd yn siŵr beth oedd y ffordd gywir o'i waredu.
“Roedd y ffaith bod cymaint o bobl wedi dod atom yn dangos gwerth rhedeg cyfnodau ildio fel hyn. Gobeithio y gallwn weld ymateb tebyg y tro hwn, gan fod pob arf tanio a gyflwynir yn golygu y bydd un arf tanio yn llai a allai fynd i'r dwylo anghywir.”
Bydd y cyfle ildio arfau tanio yn cael ei gynnal rhwng 3 a 28 Chwefror. Yn ystod y cyfnod hwn, gellir mynd ag arfau tanio, bwledi a chetris ac ategolion i'r gorsafoedd canlynol:
Ai yn ystod mis Chwefror yn unig y gallaf ildio arf?
Na. Gellir mynd ag unrhyw arf i orsaf heddlu unrhyw bryd. Diben y cyfnodau ildio hyn yw talu sylw i beryglon troseddau drylliau a thynnu sylw at y ffyrdd cywir o'u gwaredu.
Alla i fynd i'r orsaf heddlu yn cario gwn? Beth os caf fy stopio ar y ffordd?
Dylai unrhyw un fydd yn cael ei stopio ar ei ffordd i orsaf heddlu yn cario gwn i'w ildio roi gwybod i'r swyddog fod ganddo wn yn ei feddiant ac esbonio ei fod am ei ildio. Bydd swyddogion yn ymwybodol o'r cyfnod ildio a gallai'r person ildio'r arf tanio i'r swyddog hwnnw.
Mae gennyf arf tanio i'w ildio, ond nid wyf am / ni allaf ei gludo i orsaf heddlu. Beth ddylwn i ei wneud?
Dylai unrhyw un sydd am ildio ond na all fynd i orsaf heddlu neu sy'n pryderu am gludo arf tanio/bwledi a chetris gysylltu â'n hystafell reoli i gael cyngor pellach. Ffyrdd o gysylltu â ni.
Ai dim ond gynnau y gellir eu hildio yn ystod y cyfnod ildio?
Na. Tra bod y cyfnod ildio yn canolbwyntio ar droseddau drylliau, byddem yn annog unrhyw un sydd ag arf tanio neu arf posibl (ee. cyllyll cegin nad yw eu hangen mwyach) i ddod â nhw i mewn i unrhyw un o'r gorsafoedd penodol i'w waredu'n ddiogel.
Os byddaf yn cyflwyno arf tanio, ydw i'n cael fy ngwarchod gan unrhyw ganlyniadau pe bai'r arf hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn trosedd?
Bydd unrhyw un fydd yn ildio arf tanio neu unrhyw arf arall yn cael imiwnedd ar gyfer bod â'r arf yn ei feddiant ar adeg ildio. Bydd swyddogion ymholiadau gorsaf yn gofyn cwestiynau er mwyn cwblhau'r ffurflen ildio arf tanio. Fodd bynnag nid oes rhwymedigaeth i ateb y cwestiynau a gall yr unigolyn fydd yn ildio ddewis ei ildio'n ddienw.
Fodd bynnag, mae dyletswydd ar Heddlu De Cymru i ymchwilio i hanes yr arf tanio er mwyn nodi a yw'n gysylltiedig â throsedd ac i ddwyn y rheini sy'n rhan o hyn i gyfrif.