Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae un o'r troseddwyr yr oedd heddlu'r DU yn fwyaf awyddus i'w dal wedi cael ei anfon i'r carchar am 12 mlynedd yn Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw (Dydd Gwener 14 Chwefror).
Calvin Parris oedd aelod olaf grŵp troseddau cyfundrefnol i gael ei ddwyn i gyfrif ar ôl treulio pedair blynedd ar ffo.
Cafodd Parris, 34 oed o Gaerdydd, ei ddal o'r diwedd gan swyddogion Heddlu Barnwrol Portiwgal yn yr Algarve, Portiwgal ar 3 Hydref.
Cafodd ei hebrwng yn ôl i'r DU gan swyddogion arbenigol yr Uned Estraddodi Genedlaethol o Ganolfan Troseddau Rhyngwladol ar y Cyd (ICC) yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ar 15 Hydref 2024, a'i gludo i'r ddalfa gan Heddlu De Cymru.
Dywedodd Duncan Burrage, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol:
“Ar ôl enwi Calvin Parris fel un o'r ffoaduriaid roeddem yn fwyaf awyddus i'w dal, roedd ein hymdrechion yn ddiflino i ddod o hyd iddo a'i ddychwelyd i Gymru i wynebu cyfiawnder.
“Ni fyddai'r ddedfryd o garchar a roddwyd i Parris heddiw wedi bod yn bosibl heb waith caled ein partneriaid yn Heddlu Barnwrol Portiwgal a ddaeth o hyd iddo a'i arestio yn yr Algarve y llynedd.
“Mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i weithio'n agos gyda phartneriaid domestig a rhyngwladol sy'n gorfodi'r gyfraith er mwyn sicrhau nad oes unrhyw le i ffoaduriaid y DU ffoi a chuddio rhag cyfiawnder.”
Dywedodd y Ditectif Ringyll Ceri Young o Heddlu De Cymru:
“Roedd Calvin Parris yn aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn rhan o gynllwyn cymhleth i fasnachu cyffuriau Dosbarth A a reolir i mewn i Dde Cymru gan ddefnyddio dyfeisiau cyfathrebu wedi'u hamgryptio ar lwyfan ‘EncroChat’.
“Defnyddiodd Parris a'i gyd-gynllwynwyr ddyfeisiau cyfathrebu wedi'u hamgryptio ar lwyfan 'EncroChat' i hwyluso eu troseddu a llesteirio camau gorfodi'r gyfraith.
“Mae troseddau cyfundrefnol a masnachu mewn cyffuriau yn cael effaith andwyol iawn ar gymunedau, ac mae dwyn troseddwyr sy'n ymwneud â'r lefel hon o droseddu i gyfrif yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.”
Ddydd Mercher 27 Mai 2020, cafodd Lenci Gashi, o Albania, ei stopio wrth yrru Citroen Berlingo ar yr M4 tuag at Dde Cymru. Canfuwyd bod ei fan yn cynnwys 15kg o gocên wedi'i wasgu ar gyfer aelodau o'r grŵp troseddau cyfundrefnol.
Ar 16 Mehefin 2020, cafodd Michael Laverick, pennaeth y grŵp troseddau cyfundrefnol yn Ne Cymru yn ôl pob tebyg, ei arestio.
Rhwng 31 Mawrth a 27 Mai 2020, cymerodd y grŵp 35kg o gocên i'w feddiant a thalodd £696,000 i gyflenwyr i fyny'r gadwyn drwy rwydwaith cymhleth o gyd-droseddwyr, lleoliadau diogel a chludwyr troseddol.
Cafodd Laverick ei gefnogi gan ei ddirprwy, Asim Naveed, a oedd yn gyfrifol am ddosbarthu'r cocên ar ôl iddo gael ei dderbyn gan y cyflenwyr i fyny'r gadwyn.
Roedd Danny Attard yn rhan o'r grŵp a dderbyniodd lwythi o gocên a'u storio mewn lleoliad diogel o fewn dinas ehangach Caerdydd cyn ymwneud â'u dosbarthu.
Nodwyd bod Calvin Parris a Damian Farrugia o Gaerdydd yn gwsmeriaid rheolaidd a oedd yn ymwneud â phrynu symiau cyfanwerthol o gocên gan Laverlick, ac yn ystod dyddiadau perthnasol yr achos hwn o gynllwynio, tybiwyd bod Parris a Farrugia wedi derbyn 7kg o gocên yr un.
Roedd Khan wedi'i nodi'n un o gwsmeriaid dibynadwy y grŵp a dderbyniodd 6.5kg o gocên drwy ddefnyddio 'EncroChat'.
Cymerodd ymchwilwyr Heddlu De Cymru gamau gorfodi fesul cam yn erbyn aelodau o'r grŵp troseddau cyfundrefnol gan weithredu sawl gwarant chwilio mewn sawl cyfeiriad yn ardal De Cymru.
Arweiniodd y gwarantau hyn at arestio aelodau o'r grŵp a chasglu tystiolaeth berthnasol, gan gynnwys arian parod, dyfeisiau cyfathrebu a dillad a nwyddau gwerth uchel a oedd yn dangos enillion ariannol y grŵp.
Ni ddaethpwyd o hyd i Asim Naveed na Calvin Parris yn ystod y cam gorfodi cyntaf, a chanfuwyd yn ddiweddarach eu bod wedi ffoi o'r Deyrnas Unedig i Bortiwgal.
Gweithiodd ymchwilwyr Heddlu De Cymru yn agos gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i rannu gwybodaeth a chuddwybodaeth a arweiniodd at eu harestio ym Mhortiwgal ym mis Mehefin a mis Hydref 2024, yn y drefn honno.
Dedfrydau blaenorol a roddwyd i aelodau o'r grŵp troseddau cyfundrefnol:
![]() |
![]() |
![]() |