Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Gwener 10 Mai 2024, roedd parafeddyg yn ceisio trin Nigel Francis, 58 oed, o Flaen-y-maes pan wnaeth droi'n fygythiol. Digwyddodd hyn yn ardal Penlle’r-brain, Abertawe.
Yn y clip isod, mae Francis i'w weld yn cael ei dywys i fan yr heddlu mewn gefynnau pan wnaeth boeri ar wyneb y parafeddyg.
Plediodd yn euog i ymosod ar weithiwr brys a defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol neu sarhaus er mwyn achosi aflonyddwch, codi ofn neu achosi trallod.
Cafodd Francis ei ddedfrydu i wyth mis yn y carchar a chafodd orchymyn i dalu £50 o iawndal i'r parafeddyg yn Llys Ynadon Abertawe, ddydd Llun 24 Chwefror 2025.
Ychwanegodd Rhingyll yr Heddlu John Hughes: “Ni ddylai neb ddisgwyl y bydd unigolyn yn ymosod arnynt – naill ai'n gorfforol neu ar lafar – pan fyddant wrth ei waith, p'un a fyddwch yn gweithio i'r gwasanaethau brys ai peidio.
“Mae'r ymddygiad hwn yn gwneud ein rolau'n fwy heriol, a byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol.”
Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae unrhyw fath o ymosodiad yn annerbyniol, ond mae poeri sy'n gwbl anfoesol.
“Roedd Jonathan yno i helpu'r dyn hwn, ac roedd hyn yn amharchus tu hwnt.
“Mae'r ffaith bod Jonathan wedi parhau i roi gofal iddo yn anhygoel, a dweud y gwir.
“Byddwn bob amser yn ceisio erlyn y rhai sy'n niweidio ein pobl, a dylai dedfrydau adlewyrchu effaith ddinistriol a hirdymor ymosodiadau ar ein staff a'n gwirfoddolwyr.”