Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Bolton wedi cael ei garcharu am gomisiynu gwefan gwe-rwydo. Ei fwriad oedd twyllo aelodau o'r cyhoedd drwy wneud iddynt feddwl eu bod yn defnyddio tudalen we wirioneddol Amazon, gyda'r bwriad o gasglu eu gwybodaeth bersonol.
Canfu ymchwiliad gan Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer De Cymru, bod Ewan McGavin, 31 oed o Horwich, Bolton, wedi talu Blaine Flatt i ddatblygu'r wefan.
Cafodd Blaine Flatt, 22 oed o Broadlands, Pen-y-bont ar Ogwr, ei ddedfrydu i nifer o droseddau - gan gynnwys gwneud neu gyflenwi eitemau i'w defnyddio mewn achosion o dwyll - ym mis Chwefror 2024 ar ôl iddo bledio'n euog. Cafodd Flatt ddedfryd o 2 flynedd yn y carchar wedi'i gohirio, a gofyniad i gwblhau 200 awr o waith di-dâl.
Nid oedd McGavin yn y wlad pan oedd ei gyd-droseddwr gerbron y llys. Cafodd McGavin ei arestio a'i ddal ar remand ar ôl iddo ddychwelyd i'r DU. Fe'i cafwyd yn euog gan reithgor ar 10 Ionawr 2025.
Mae McGavin wedi cael ei ddedfrydu i 30 mis yn y carchar am annog neu helpu i gomisiynu trosedd neillffordd yn fwriadol.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Dros Dro Jack Harris o Tarian:
“Rwy'n gobeithio y bydd yr achos hwn yn dangos i seiberdroseddwyr a thwyllwyr sy'n gweithredu yn y DU y byddwch yn cael eich ymlid gennym a chewch eich dwyn i gyfrif. Gall y math hwn o drosedd beri niwed a thrallod difrifol i aelodau o'r cyhoedd sy'n ddigon anffodus o gael eu targedu gan sgamiau gwe-rwydo.
“Mae gwe-rwydo yn gais gan droseddwyr i ddefnyddio gwefannau neu negeseuon e-bost sgam er mwyn twyllo eu dioddefwyr i roi eu gwybodaeth bersonol neu ariannol iddynt, neu lawrlwytho ffeiliau maleisus. Bydd y gwefannau neu'r negeseuon e-bost yn cael eu gwneud i ymddangos fel eu bod yn perthyn i gwmnïau neu sefydliadau dilys fel bod y dioddefwyr bwriadedig yn ymddiried ynddynt.
“Byddwn yn annog pawb i sicrhau eu bod yn ymwybodol o arwyddion sgamiau gwe-rwydo fel y gallant amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid. Mae gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) adnoddau defnyddiol: Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer aros yn ddiogel ar-lein - NCSC.GOV.UK
“Mae adnoddau hefyd ar gael i sefydliadau a busnesau sy'n cael eu targedu gan sgamiau gwe-rwydo yn aml: Ymosodiadau gwe-rwydo: amddiffyn eich sefydliad - NCSC.GOV.UK
“Byddwn yn annog pawb i fod yn wyliadwrus am y wybodaeth y maent yn ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd troseddwyr yn defnyddio gwybodaeth bersonol y byddant yn dod ar eu traws ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn gwneud i'w sgamiau ymddangos yn fwy argyhoeddiadol i'w targed arfaethedig. Adolygwch eich gosodiadau preifatrwydd a gwnewch yn siwr mai dim ond gyda phobl rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt y byddwch yn rhannu data personol.
“Os byddwch yn credu y gallech wedi cael eich effeithio gan wefan neu neges e-bost gwe-rwydo, rhowch wybod i Action Fraud: https://www.actionfraud.police.uk/
“Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.”