Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â bod yn berchen ar gŵn XL Bully a'u cofrestru bellach wedi bod mewn grym ers 12 mis.
Erbyn diwedd mis Mehefin y llynedd, bu'n rhaid ysbaddu pob ci XL Bully sydd wedi'i eithrio.
Bu'n rhaid i berchenogion cŵn XL Bully cofrestredig a oedd yn 12 mis neu'n hŷn ar 31 Ionawr 2024 drefnu i'w cŵn gael eu hysbaddu erbyn diwrnod olaf mis Mehefin 2024 er mwyn sicrhau bod y Dystysgrif Eithrio yn parhau i fod yn ddilys.
Mae mesurau rheoli llym bellach ar waith ar gyfer cŵn XL Bully presennol. Rhaid iddynt gael eu cofrestru, eu microsglodynnu, eu hysbaddu a'u cadw ar dennyn ac wedi'u mwselu yn gyhoeddus, a rhaid bod yswiriant trydydd parti wedi'i drefnu ar eu cyfer gyda'r Ymddiriedolaeth Cŵn.
Rhoddwyd y mesurau hyn ar waith i wella diogelwch y cyhoedd a sicrhau bod y boblogaeth bresennol o gŵn XL Bully yn lleihau dros amser.
Ers mis Chwefror diwethaf cadarnhawyd, drwy gofrestriad â Defra neu gan Heddlu De Cymru, fod 1,500 o gyfeiriadau ledled ardal yr heddlu dan amheuaeth o fod yn berchen ar gŵn XL Bully.
Mae swyddogion wedi ymweld ag oddeutu 100 o eiddo, wedi gweithredu mwy na 30 o warantau ac wedi atafaelu 88 o gŵn. Mae 36 o ymchwiliadau yn mynd rhagddynt ar gyfer troseddau'n ymwneud â'r Ddeddf Cŵn Peryglus.
Dywedodd y Prif Arolygydd Scott Threadgold:
“Daeth y ddeddfwriaeth i rym oherwydd bu cynnydd sylweddol mewn ymosodiadau angheuol a difrifol gan gŵn XL Bully yn genedlaethol.
“Byddwn bob amser yn amddiffyn y cyhoedd rhag unrhyw fygythiadau a nodir a dyma yw ein blaenoriaeth. Os bydd unrhyw gŵn peryglus yn ein cymunedau, sy'n dangos arwyddion o ymddygiad ymosodol yn ogystal â bod yn frîd anghyfreithlon, yna byddwn yn gweithredu.
“Rydym yn parhau i annog y cyhoedd i roi gwybod am y mathau hyn o gŵn. Rydym yn gwybod bod ymosodiad angheuol gan gi yn cael effaith ddinistriol ar deulu ac ar y gymuned ehangach.
Felly, os bydd gan unrhyw un wybodaeth am gŵn peryglus neu anghyfreithlon, dylai roi gwybod i'r heddlu. Byddwn yn cymryd camau gweithredu cadarnhaol er mwyn gwneud ein gorau glas i atal niwed yn ein cymunedau.
“Gallai unrhyw un y canfyddir bod ganddo un o'r cŵn peryglus hyn ac nad yw'n bodloni'r rheolau llym wynebu erlyniad a chofnod troseddol a gallai ei gi gael ei atafaelu.”