Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Toxteth, Lerpwl, wedi cael ei ddedfrydu i 14 mlynedd o garchar ar ôl pledio'n euog i 42 o droseddau.
Ymddangosodd Paul Welsh, 46 oed, gerbron Llys y Goron Lerpwl ddydd Mercher 12 Chwefror 2025. Roedd y troseddau'n cynnwys gwneud, cymryd, dosbarthu a chael lluniau anweddus o blant yn ei feddiant; ymgais i gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn; blacmel; a threfnu/hwyluso trosedd rhyw plant.
Cafodd Welsh hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol a bydd ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes.
Clywodd y llys fod Welsh wedi dechrau sgwrs gyda phlentyn yr oedd yn credu ei fod dan 13 oed ar y rhyngrwyd, gan annog y plentyn hwnnw i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol. Nid oedd Welsh yn ymwybodol bryd hynny mai swyddog heddlu o Tarian, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru, oedd yr unigolyn yr oedd yn siarad ag ef mewn gwirionedd.
Gwnaeth Tarian drosglwyddo'r cudd-wybodaeth i swyddogion yn Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol y Gogledd-orllewin (NWROCU), a arestiodd Welsh ar 5 Mai 2023 yn ei gyfeiriad cartref. Yn ystod archwiliad o sawl dyfais a atafaelwyd oddi wrth Welsh, gwnaeth swyddogion nodi dioddefwyr eraill ledled y DU a'r Unol Daleithiau, gyda sawl un ohonynt wedi cael eu blacmelio i anfon lluniau anweddus at Welsh ar gyfer ei foddhad rhywiol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Viktorija Clarehugh o NWROCU:
“Arweiniodd ymchwiliad hir a chymhleth at reibiwr rhywiol yn cael ei garcharu am gyfnod hir o amser. Nid oes unrhyw le yn ein cymdeithas i weithredoedd cwbl anfoesol Welsh, ac mae'n haeddu'r ddedfryd a gafodd.
“Mae troseddwyr fel Welsh yn credu y gallant guddio y tu ôl i sgrin cyfrifiadur neu ffôn ac osgoi'r carchar, ond mae'n amlwg nad yw hynny'n wir. Rydym yn cydweithredu â thimau gorfodi'r gyfraith ledled y wlad i ddiogelu plant rhag niwed, p'un a yw'n digwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein.
“Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn atgoffa pobl nad oes ffiniau mewn perthynas â chamdriniaeth rhywiol. Gall ddigwydd unrhyw le, ac mae'r effaith yn dorcalonnus. Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi cael eich cam-drin/ei gam-drin yn rhywiol, neu'n cael eich cam-drin/ei gam-drin ar hyn o bryd, cysylltwch â'r heddlu a rhowch wybod iddynt."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rich Davies o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:
“Mae'n flaenoriaeth wirioneddol gennym i amddiffyn plant yn ein cymunedau ac rwy'n ddiolchgar i'n swyddogion a'n cydweithwyr yn NWROCU am eu gwaith ymchwilio trylwyr i'r achos gwarthus hwn. Bydd erlyniad a chollfarn llwyddiannus Welsh, sy'n rheibiwr rhywiol peryglus iawn, yn sicrhau y caiff plant agored i niwed eu hamddiffyn rhag y risgiau yr oedd yn eu cyflwyno.”
Os ydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc sy'n cael eich cam-drin yn rhywiol neu'n gorfforol, gall y sefydliadau canlynol ddarparu help a chymorth:
NSPCC: Ffoniwch 0808 800 5000 neu e-bostiwch [email protected]
Childline: Ffoniwch 0800 1111
Gallwch hefyd roi gwybod i'r heddlu, neu'n ddienw i Crimestoppers: https://crimestoppers-uk.org/give-information/forms/give-information-anonymously