Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chwiliad heddlu ar raddfa fawr yn parhau er mwyn ceisio dod o hyd i Charlene Hobbs, sydd ar goll.
Nid yw Charlene, 36 oed, wedi cael ei gweld ers dros 6 mis – y tro diwethaf iddi gael ei gweld yn bendant oedd mewn llun a dynnwyd ar ffôn symudol mewn eiddo yn Broadway, Adamsdown, am 6:07am ar 24 Gorffennaf 2024. Roedd ei gwallt mewn 'bun', ac roedd yn gwisgo top tywyll heb strapiau. Mae gan Charlene datŵ nodedig o ddraig ar ei chefn.
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'w diflaniad wedi rhyddhau deunydd nas gwelwyd o'r blaen o Charlene – deunydd teledu cylch cyfyng ohoni yn Morrisons Local, Adamsdown, ar 23 Gorffennaf 2024, y diwrnod cyn iddi gael ei gweld ddiwethaf. Maent yn gobeithio y bydd hyn yn annog y cyhoedd, sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at y llinellau ymholi hyd yma, i rannu gwybodaeth newydd.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i weithredu ar y wybodaeth sydd wedi dod i law. Mae gwerth dros fil o oriau o ddeunydd teledu cylch cyfyng cyhoeddus a phreifat yn cael ei adolygu yn dilyn achosion posibl o weld Charlene. Mae swyddogion wedi cynnal ymholiadau mewn mwy na 250 o gyfeiriadau ac wedi chwilio safleoedd diffaith, cerbydau, tir agored a dyfrffyrdd ledled de Cymru, a bydd y gwaith hwn yn parhau. Cymerwyd datganiadau hefyd gan fwy na 50 o bobl ers i'r ymchwiliad ddechrau.
Gofynnwyd i bobl sy'n byw yn ardaloedd y Sblot a'r Rhath o Gaerdydd i helpu i chwilio drwy edrych yn eu tai allan a'u heiddo gwag lle y gallai Charlene fod yn cysgodi.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell, o Heddlu De Cymru:
“Rydym yn parhau i fod yn benderfynol o ddod o hyd i Charlene, ac mae timau arbenigol o swyddogion a staff sy'n gweithio'n benodol ar yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar ddod o hyd i Charlene a'i dychwelyd at ei theulu.
“Mae Charlene yn fam, yn chwaer, yn ferch ac yn ffrind i lawer. Fel ni, mae pob un ohonynt yn poeni'n arw am ei llesiant ac yn awyddus iawn i gael atebion. Rwy'n dal i gredu'n gryf mai yn y gymuned y mae'r atebion, ac y bydd gan rywun wybodaeth allweddol a fydd yn ein helpu i ddod o hyd i Charlene – gall unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys ydyw ym marn rhywun, ein helpu i ddod o hyd i Charlene.”
Os gallwch helpu, cysylltwch â Heddlu De Cymru, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400353044.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo oddi ar ddyfeisiau fel ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd drwy'r ddolen hon: https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B95-PO1
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Cysylltwch â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo
101
Cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
(Delweddau isod – mae'r gwaith o chwilio am Charlene Hobbs yn parhau)