Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae saith dyn a gafwyd yn euog mewn perthynas â herwgipio dyn o Gaerdydd yn wynebu cyfyngiadau llym pan fyddant yn cael eu rhyddhau o'r carchar.
Mae Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol wedi cael eu rhoi ar Grŵp Troseddau Cyfundrefnol a garcharwyd am herwgipio dyn o Gaerdydd.
Cafodd yr achos ei ddisgrifio fel un o'r ymchwiliadau herwgipio mwyaf cymhleth yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf.
Ym mis Rhagfyr 2020, cafodd dyn 22 oed ei herwgipio o Clifton Street, y Sblot, i fflat ar Heol Pendwyallt, yr Eglwys Newydd, lle cafodd ei arteithio a'i fygwth gan y gang arfog. Cafodd y dioddefwr ei gludo i fflat yn Hemel Hempstead lle cafodd ei gadw nes iddo gael ei achub yn ddiogel o ganlyniad i ymchwiliad ar y cyd rhwng sawl heddlu a'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Yn ystod gwrandawiad llys, dywedodd y dioddefwr: “Achubodd yr heddlu fy mywyd. Dydw i ddim yn credu y byddwn i'n fyw oni bai bod yr heddlu wedi dod y diwrnod hwnnw. Rwyf 100% yn siŵr. Wn i ddim pam eu bod am i fi farw, ond rwy 100% yn siŵr na fyddwn i'n fyw.”
Ym mis Hydref 2023, cafodd naw dyn ddedfryd o garchar am gyfanswm o 116 o flynyddoedd yn Llys y Goron Caerdydd am herwgipio'r unigolyn.
Mae saith o'r naw dyn bellach yn wynebu cyfyngiadau llym ar eu bywydau personol pan fyddant yn cael eu rhyddhau o'r carchar yn dilyn Gorchmynion Atal Troseddau Difrifol a roddwyd arnynt gan Lys y Goron Casnewydd yr wythnos hon.
Nod Gorchymyn Atal Troseddau Difrifol yw cyfyngu ar allu troseddwr i gynllunio, ariannu a chyflawni troseddau difrifol yn y dyfodol.
Er enghraifft, mae'r gorchmynion yn cyfyngu ar faint o arian y gall y troseddwr feddu arno, faint o ddyfeisiau cyfathrebu y gall eu defnyddio, faint o gyfrifon banc sydd ganddo, lle mae'n byw a pha gerbydau y mae'n eu gyrru.
Rhoddwyd gorchmynion ar y canlynol:
Fortune Lawson, 28 oed o Ealing, Llundain, sy'n bwrw dedfryd o 25 o flynyddoedd yn y carchar.
Davood Assadpour, 34 oed o Harrow, Llundain, sy'n bwrw dedfryd o 15 o flynyddoedd yn y carchar.
Micaiah Marley, 31 oed o Watford, sy'n bwrw dedfryd o 15 o flynyddoedd yn y carchar.
Arnold Fumumeya, 28 oed o Harrow, Llundain, sy'n bwrw dedfryd o 13 o flynyddoedd yn y carchar.
Alexis Mutesa, 28 oed o Brent, Llundain, sy'n bwrw dedfryd o 13 o flynyddoedd yn y carchar.
Gideon Lawson, 25 oed o Lundain, sy'n bwrw dedfryd o 12 mlynedd yn y carchar.
Denis Delishaj, 26 oed o Harrow, Llundain, a gafwyd yn euog o flacmel ac a gafodd ei ddedfrydu i 8 mlynedd yn y carchar.
Bydd yn rhaid i bob un o'r saith dyn gofrestru manylion unrhyw gerbydau y maent yn eu defnyddio â'r heddlu ynghyd â rhoi gwybod pan fyddant yn newid cyfeiriad.
Ni ddylent fod â mwy na £1k mewn arian parod yn eu meddiant heb reswm da a bydd yn rhaid iddynt roi gwybod i'r heddlu beth yw ei ddiben.
Bydd y gorchmynion yn dechrau ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar a byddant ar waith am y cyfnod hwyaf posibl, sef pum mlynedd.
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen am yr ymchwiliad a arweiniodd at ddedfrydu'r Grŵp Troseddau Cyfundrefnol: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/news/south-wales/newyddion/2023/hyd-oct/grp-troseddau-cyfundrefnol-yn-cael-ei-ddedfrydu-i-gyfanswm-o-116-o-flynyddoedd-yn-y-ddalfa-am-herwgipio-yng-nghaerdydd/