Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
"Mae'r siop ar gau!" – dyma a ddywedodd defnyddiwr cyffuriau pan welodd ddau swyddog yn sefyll yn fflat ei deliwr cyffuriau.
Disgrifiodd swyddogion o Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro sut y daethant o hyd i chwe dyn mewn panig pan wnaethant ymweld yn ddirybudd â fflat un ystafell wely yn Grangetown ym mis Medi (2024).
Roedd Layton Preece, 51 oed, a Dylan Young, 21 oed, yn eu plith ac wedi'u hamgylchynu â chyffuriau a chyfarpar cyffuriau ar y pryd.
Cafodd amheuon y swyddogion fod y fflat yn cael ei defnyddio fel lleoliad gwerthu crac eu cadarnhau pan oeddent yn y fflat - daeth defnyddiwr cyffuriau a churo'r drws a phan agorodd swyddog mewn lifrau'r drws iddi, gadawodd yr eiddo'n frysiog gan weiddi: "mae'r siop ar gau!"
Cafodd gwerth ychydig dros £4,000 o gyffuriau dosbarth A gan gynnwys cocên a chrac cocên eu hatafaelu gan yr heddlu.
Cafodd Layton Preece, heb gartref sefydlog, ei gyhuddo a phlediodd yn euog i fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi ac i gael ei ddal â chrac cocên yn ei feddiant.
Cafodd Dylan Young, 21 oed, ei gyhuddo a phlediodd yn euog i fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Ar 20 Chwefror, cafodd Preece ei garcharu am 42 mis a chafodd Young ddedfryd o 18 mis, wedi'i ohirio am 21 mis, yn Llys y Goron Caerdydd.