Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth am leoliad Mark Kinson, sydd wedi bod ar goll ers pythefnos.
Cafodd Mark, 52 oed, ei weld ddiwethaf ddydd Gwener 31 Ionawr am 9.45pm ar Uphill Road, Llanrhymni.
Cafodd wedyn ei weld am tua 10pm yn Captains Walk yn cerdded i gyfeiriad cyffredinol Braunton Crescent.
Mae ymholiadau helaeth wedi'u cynnal, ac yn parhau i fynd rhagddynt, er mwyn dod o hyd i Mark, ond nid oes neb wedi ei weld yn bendant ers y diwrnod hwnnw.
Fel rhan o'r ymchwiliad parhaus, mae swyddogion yn archwilio deunydd fideo CCTV ac yn chwilio tir agored, ardaloedd coediog, a glannau afon.
Dywedir bod Mark oddeutu 5 troedfedd 7 modfedd o daldra ac yn gwisgo tracwisg lwyd/glas tywyll ar y diwrnod yr aeth ar goll.
Dywedodd Angela, partner Mark:
"Mae'n gwbl groes i gymeriad Mark, ac rydym ei eisiau gartref yn ddiogel. Rydym yn ymbil yn daer am wybodaeth ac yn apelio ar unrhyw un sy'n gwybod unrhyw beth i gysylltu â'r heddlu.
"Rwy'n credu bod Mark yn fregus ac rwyf am iddo wybod bod cymaint o gariad a chefnogaeth iddo."
Gofynnir i unrhyw un a allai fod wedi gweld Mark, neu sydd â gwybodaeth a fydd yn ein helpu i ddod o hyd iddo, gysylltu â ni gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2500033949.