Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi'i garcharu ar ôl achosi difrod troseddol a dwyn nifer fawr o blatiau rhif o gerbydau yn y gymuned leol.
Mae Daniel Cooper, dyn 27 oed o Mount Pleasant, wedi ei ddal ar CCTV yn difrodi eiddo mewn sawl lleoliad yng nghanol y ddinas.
Gwelwyd hefyd ar CCTV yn tynnu troli llawn platiau rhif ar hyd stryd lle cafwyd dros ddeg o adroddiadau o blatiau rhif wedi eu dwyn ac yn dilyn ymchwiliad cysylltwyd y ddau ddigwyddiad.
Ar 17 Mai, 2024, cafodd Cooper orchymyn gwasgaru Adran 35 a orfododd iddo adael ardal canol dinas Abertawe am 48 awr ar ôl iddo ymddwyn yn fygythiol mewn bar ar Wind Street. Dychwelodd i'r un bar yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ac o ganlyniad cafodd ei arestio.
Cafodd Cooper ei ddedfrydu i bedwar mis yn y carchar.
Dywedodd PC Jessica Fyfield:
"Roedd sbri troseddol Daniel Cooper yn hy, gyda swm mawr o blatiau rhif yn cael eu dwyn yn yr un ardal ac o fewn yr un amserlen.
"Rwy'n obeithiol y bydd yn defnyddio ei amser yn y carchar i feddwl am ganlyniadau ei weithredoedd. Bydd y gymuned yn teimlo rhyddhad o weithredoedd hunanol Cooper."