Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am ei rôl yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Keiran Pugh, 22 oed o ganol y ddinas, ei arestio yn dilyn gweithgarwch stopio traffig yn ardal Castell-nedd, pan sylwodd swyddogion ar arogl cryf o ganabis yn dod o'r cerbyd. Daethpwyd o hyd i ddau fag clir o gocên yn ei waled. Daethpwyd o hyd i bedwar bag arall yn ei ddillad isaf pan gafodd ei chwilio gan swyddogion mewn gorsaf heddlu.
Daethpwyd o hyd i sylweddau pellach yn ei gyfeiriad, yn ogystal â swm sylweddol o arian parod.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 30 mis yn y carchar, yn ogystal â dau fis ychwanegol o ddedfryd ohiriedig flaenorol sydd wedi'i gweithredu.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Heather Southway:
"Roedd gan Keiran Pugh swm sylweddol o sylweddau, gan gynnwys cocên, yn ei feddiant, ac mae'n amlwg ei fod yn bwriadu gwerthu'r rhain i eraill.
“Mae hyn yn achos arall sy'n tynnu sylw at y ffaith nad yw troseddau cyffuriau yn talu. Byddwn yn adnabod unrhyw un sy'n ymwneud â'r fasnach gyffuriau anghyfreithlon, ac fel Keiran Pugh, byddwch yn cael eich anfon i'r carchar.”