Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
![]() |
![]() |
Mae dau ddyn o Abertawe wedi cael eu carcharu am eu rolau yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Luke Williams, 28 oed o Strand yng nghanol y ddinas, a Leon Beynon, 30 oed o'r Cocyd, eu dedfrydu i 48 mis a 32 mis yn y drefn honno.
Cafodd Williams ei arestio ar 23 Rhagfyr ar ôl iddo gael ei weld yn rhoi arian ar ffôn symudol yr oedd negeseuon yn cael eu hanfon ohono at ddefnyddwyr cyffuriau. Yn dilyn hyn, cynhaliwyd chwiliad o dan warant yng nghyfeiriad cartref Beynon.
Daethpwyd o hyd i'r ffôn symudol a gafodd ei ddefnyddio gan Williams i roi arian arno yng nghyfeiriad Beynon. Roedd yn cynnwys cyfathrebiadau rhwng Beynon a Williams o ran olrhain a chyflenwi heroin a chrac cocên.
Cafodd symiau o ganabis ac arian parod hefyd eu hatafaelu o gyfeiriadau'r ddau ddyn.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Luke Tucker:
"Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o'r gwaith rydym yn ei wneud i amharu ar weithgarwch y rhai sydd yn y fasnach gyffuriau anghyfreithlon.
"Mae cyffuriau Dosbarth A, fel yr heroin a'r crac cocên roedd Luke Williams a Leon Beynon yn gweithio i'w dosbarthu i'r gymuned leol, yn dinistrio bywydau. Maent nid yn unig yn dinistrio bywydau'r rhai sy'n eu prynu, ond bywydau eu teulu a ffrindiau hefyd.
"Bydd Heddlu De Cymru yn gweithio bob amser i ddwyn y rhai sy'n ymwneud â'r gweithgaredd anghyfreithlon hwn i gyfrif."