Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Swydd Hertford wedi cael ei garcharu ar ôl rhedeg llinell gyffuriau yn ardal Abertawe.
Cafodd Omar Gul, 36 oed, ei stopio gan swyddogion a chanfuwyd tua 60 o roliau yn ei feddiant yn cynnwys cymysgedd o grac cocên a heroin, yn ôl pob golwg.
Roedd ganddo hefyd ddau ffôn symudol yn ei feddiant, gydag un yn weithgar iawn o ran derbyn galwadau.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar am fod â chrac cocên a heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Dywedodd y Rhingyll Luke Tucker:
“Roedd Omar Gul wedi dod i ardal Abertawe yn unswydd i werthu cyffuriau Dosbarth A i'r gymuned leol.
“Nid oedd yn poeni dim am yr effaith y byddai'r cyffuriau hyn yn ei chael ar y rhai oedd yn eu prynu, nac ar eu teuluoedd, eu ffrindiau, a'u cymdogion.
“Gydag Omar Gul yn y carchar, mae cymuned Abertawe bellach yn lle mwy diogel.”