Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Grant Lester, 37 oed o Glydach, ei weld yn gyrru ei gerbyd mewn modd amheus ac roedd yn ymddangos fel petai yn ceisio osgoi'r heddlu. Pan ddaeth swyddogion o hyd i Lester mewn cyfeiriad yn y Glais, cafodd swm o gocên ei ddarganfod o dan ei sedd, ynghyd â ffon symudol Lester, a oedd yn cynnwys tystiolaeth o ddelio cyffuriau.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a dau fis yn y carchar am fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Dywedodd y Rhingyll Luke Tucker:
“Gwyddai Grant Lester fod ei ran yn y fasnach gyffuriau anghyfreithlon yn anghywir, a cheisiodd guddio hyn rhag y swyddogion pan gafodd ei ddal drwy guddio cyffuriau a'i ffôn symudol o dan ei sedd.
“Fel pobl eraill sy'n ymwneud â'r gweithgaredd anghyfreithlon hwn, roedd ond yn pryderu am ei elw ariannol ei hun, heb boeni am y diflastod y mae'r cyffuriau hyn yn ei achosi i'r gymuned leol.
“Rydym yn gobeithio y bydd Grant yn meddwl am ei weithredoedd yn y carchar ac yn newid ei ffyrdd.”