Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am ddwyn tacsi.
Gofynnodd Jeremy Higgins, 31 oed, heb gartref sefydlog, i yrrwr tacsi ei helpu i gario ei eiddo i mewn i'r cerbyd. Pan ddaeth y gyrrwr tacsi allan i helpu, neidiodd Higgins i gadair y gyrrwr a gyrru i ffwrdd.
Daeth swyddogion o hyd iddo ar Princess Margaret Way, Aberafan, ar ôl cael gwrthdrawiad yn y cerbyd ac achosi difrod sylweddol iddo. Roedd wrthi'n ceisio tynnu'r camera dashfwrdd a'r peiriant cerdyn o'r cerbyd.
Cafodd Higgins ei arestio a chanfuwyd dwy gyllell yn ei feddiant. Canfuwyd hefyd bod ffôn ym meddiant Higgins yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i ddeuddeg mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Grant Phillips:
"Mae'n amlwg bod Jeremy Higgins wedi cynllunio'r lladrad hwn oherwydd bod ganddo ddwy gyllell yn ei feddiant. Mae'n rhaid bod y profiad hwn wedi bod yn ddychrynllyd i'r gyrrwr tacsi.
Yn ogystal â dwyn y tacsi a chael gwrthdrawiad ynddo, roedd hefyd yn cario dau arf peryglus ar y pryd. Felly, roedd yn hollol briodol iddo gael ei anfon i'r carchar."