Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Sul, 18 Awst, daeth tîm plismona yn y gymdogaeth o hyd i werth mwy na chwarter miliwn o bunnoedd o ganabis yn tyfu yn agos iawn at feithrinfa plant yng Nghaerdydd.
Sicrhaodd y tîm plismona lleol warant chwilio er mwyn cael mynediad i'r uned ddiwydiannol ar Ystâd Ddiwydiannol Seawall Court, ar ôl i bobl leol roi gwybod am arogl cryf o'r cyffur.
Atafaelodd swyddogion 604 o blanhigion a oedd werth £260k.
Cafodd Anxhel Cepele, 23 oed, ac Anduel Demo, 26 oed, eu harestio ac maent bellach wedi'u cyhuddo o dyfu canabis. Maent wedi cael eu cadw yn y ddalfa a byddant yn ymddangos gerbron y llys nesaf ym mis Medi.
Dywedodd y Rhingyll Plismona yn y Gymdogaeth, Bleddyn Jones: "Fel tîm plismona lleol, ein rôl ni yw gwrando ar bryderon y gymuned, a gweithredu arnynt.
"Diolch i bobl wyliadwrus yr ardal, nid yw'r ffatri canabis hon yn gweithredu mwyach ac rwy'n gwybod y bydd pobl yr ardal yn falch o glywed hynny.
"Bellach, mae gan bob ardal swyddog a enwir, y gellir cysylltu ag ef â phryderon, er mwyn i ni allu cymryd camau i fynd i'r afael â nhw. Cofiwch gysylltu â ni os bydd angen."
#HafMwyDiogel Drwy gydol yr haf, byddwn yn rhoi sylw i waith ein Timau Plismona yn y Gymdogaeth ledled De Cymru a fydd yn gweithio'n galed i'ch cadw'n ddiogel.
Eisiau gwybod pwy yw'r tîm plismona lleol yn eich ardal chi a beth yw ei flaenoriaethau? Dilynwch y ddolen hon: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/ardal/Eich-ardal-chi/