Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llun dalfa'r heddlu o Cody Bond.
Mae tri unigolyn yn eu harddegau o Ferthyr Tudful a dorrodd i mewn i archfarchnad yn ystod oriau mân y bore yn cario machete wedi cael eu dedfrydu.
Roedd Cody Bond, 18 oed, gyda dau gyd-droseddwr arall, na ellir eu henwi oherwydd eu hoedran, pan dorrodd i mewn drwy ddrws gwydr gan ei dorri'n ddeilchion a mynd i mewn i archfarchnad Tesco yng nghanol tref Merthyr Tudful ar 28 Mai, 2025.
Gwnaethant gymryd eitemau fel cacen a Lucozade o'r silffoedd a bwced o fêps 'gwag' o ardal ciosg yr archfarchnad.
Canodd larwm a rhoddodd staff yr archfarchnad wybod i'r heddlu - yn fuan wedyn, gwnaeth swyddogion yn cario gynnau taser eu gweld yn cuddio y tu ôl i finiau mewn lôn gefn gyfagos.
Gwnaeth un o'r bechgyn ddod allan o'r tu ôl i'r bin gyda machete ond cafodd ei ddiarfogi a'i arestio'n gyflym, heb ddefnyddio taser.
Eiliadau'n ddiweddarach, cafodd Cody Bond a'r bachgen arall eu harestio a'u rhoi yn y ddalfa.
Gwnaeth deunydd CCTV eu dal yn torri i mewn i'r siop ac yn rhedeg drwy'r rhesi o silffoedd, gan gymryd beth roeddent yn ei ddymuno.
Gwnaethant helpu eu hunain i ddiodydd, cacen, a bwced o fêps a oedd, heb yn wybod iddynt, yn wag.
Gwelwyd hefyd ar y CCTV bod pob un ohonynt wedi dal y machete ar adegau gwahanol.
Cyhuddwyd y tri o fwrgleriaeth waethygedig a bod â chyllell yn eu meddiant mewn lle cyhoeddus a phlediodd pob un ohonynt yn euog.
Cafodd Cody Bond, 18, ei ddedfrydu i 40 mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Awst. Roedd y ddau fachgen arall wedi cael eu dedfrydu eisoes ym mis Mehefin a mis Gorffennaf – cafodd un ohonynt Orchymyn Goruchwylio
Adsefydlu Ieuenctid a chafodd y llall ei atgyfeirio at Banel Troseddwyr Ifanc.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Chris Phillips:
"Mae'r tri throseddwr yn hysbys i Heddlu De Cymru ac maent wedi achosi problemau mewn cymunedau ledled Merthyr Tudful. Mae Cody Bond nawr yn treulio amser sylweddol mewn sefydliad i droseddwyr ifanc, i ffwrdd o'i ffrindiau a'i deulu, a bydd hyn yn sicr yn wers anodd iddo.
"Dyma'r realiti anodd y bydd pobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei hwynebu yn y pen draw. Rwy'n gobeithio y bydd y tri ohonynt yn defnyddio'r amser hwn i feddwl am eu penderfyniadau a deall bod llwybrau eraill sy'n fwy cynhyrchiol i ffwrdd o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol."