Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a chwifiodd arf tanio yn ddifater at grŵp o bobl yn eu harddegau yn McDonald's cyn anelu'r gwn at un o swyddogion yr heddlu a oedd yn ymateb i'r digwyddiad, wedi cael carchar.
Daeth Jacob Jenkins i sylw'r bobl ifanc yn y bwyty bwyd cyflym yn Nhonypandy ar 2 Mai, gan eu bod wedi sylwi ei fod yn gwisgo fest gwrth-drywanu o dan ei got ac roedd yn syllu arnynt.
Gofynnodd un o'r grŵp i'r dyn 28 oed ai un o swyddogion yr heddlu ydoedd, lle atebodd “marines” cyn dangos pistol yr oedd yn ei gario iddynt.
Gan eu bod yn poeni am eu diogelwch, gadawodd y grŵp y bwyty cyn rhoi gwybod i'r heddlu am y digwyddiad.
Cafodd Jenkins, yntau hefyd wedi gadael y bwyty, ei stopio gan swyddog yn gyflym ar Gelli Road, ond yn lle ildio, tynnodd yr arf allan unwaith eto a'i bwyntio'n syth at y swyddog gan weiddi arno, cyn ffoi o'r lleoliad.
Wrth i swyddogion ychwanegol ymateb i'r digwyddiad hefyd, cafodd Jenkins ei ganfod yn fuan yn gadael safle adeiladu gerllaw, wedi diosg ei got.
Cafodd ei arestio ac ar ôl chwilio'r safle'n drwyadl, daeth ci heddlu a'i driniwr o hyd i'r got, ynghyd â dau wn, a oedd wedi'u cuddio'n dda o dan baledi, a chanfuwyd mai gynnau pêl-feryn (BB) â phŵer nwy oedden nhw.
Gwnaeth chwiliad pellach o'r cyfeiriad yr oedd Jenkins wedi bod yn aros ynddo hefyd ddod o hyd i fest trywanu arall a thwb o beledi BB.
Yn Llys y Goron Merthyr Tydfil, plediodd Jenkins yn euog i fod ym meddiant arf tanio ffug gyda'r bwriad o godi ofn o drais, bod ym meddiant arf tanio ffug mewn man cyhoeddus, a dau achos o fod ym meddiant eitem lafnog yn gyhoeddus.
Heddiw cafodd ei ddedfrydu i bedwar blynedd ag un mis, gyda chyfnod estynedig o dair blynedd.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Sarah Griffiths, swyddog yn yr achos:
“Roedd y digwyddiad hwn yn un eithriadol o frawychus i bawb dan sylw – o'r bobl ifanc a ddylai fod wedi teimlo'n ddiogel wrth fwynhau eu pryd i'r swyddog a gafodd ei wynebu â gwn ychydig fetrau i ffwrdd.
“Mae'n dangos yn glir sut y gall arfau diniwed i bob golwg i rai, fel gynnau BB, fod yn beryglus tu hwnt yn nwylo'r bobl anghywir. Fel y dangoswyd yma, gellir eu defnyddio yn fwriadol i godi ofn, neu i gyflawni troseddau difrifol.
“Fel rhan o'n hymgyrch Yn y Dwylo Anghywir, anogwn ein cymunedau i weithio gyda ni i sicrhau nad oes arfau fel hyn yn mynd i ddwylo'r bobl anghywir, ac ni allaf ganmol y tystion ifanc ddigon yn yr achos hwn. Gwnaeth eu meddyliau chwim sicrhau ein bod yn gallu atafaelu'r arfau a dwyn Jenkins gerbron y llysoedd.
“Rwy'n falch bod Jenkins wedi cael dedfryd o garchar ac yn gobeithio y bydd hyn yn dod â rhywfaint o dawelwch meddwl a chysur i'r bobl oedd yn rhan o'r digwyddiad ac i'r gymuned ehangach.”