Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a wnaeth gam-drin menyw yn rhywiol a'i threisio ac wedyn ceisio honni ei bod wedi breuddwydio ei ymosodiad wedi cael ei garcharu.
Cafodd Justin Saliba, 50 oed o Lanisien ei garcharu am 11 o flynyddoedd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, 18 Awst.
Mae'r drosedd yn dyddio yn ôl i 2021 a digwyddodd yn ei fflat – ymosododd Saliba ar ei ddioddefwr wrth iddi gysgu.
Deffrodd y dioddefwr i sylweddoli ei fod yn ei threisio a llwyddodd i ffoi ar ôl yr ymosodiad.
Dywedodd wrth ei theulu a gwnaethant gysylltu â Heddlu De Cymru, a chafodd ymchwiliad Heddlu De Cymru ei lansio.
Cafodd Saliba ei arestio a'i gyhuddo o drais a cham-drin rhywiol, ond plediodd yn ddieuog, gan honni bod y dioddefwr wedi drysu rhwng breuddwyd â realiti.
Ond nid oedd y rheithgor yn credu ei gelwyddau a chafodd ei ganfod yn euog a'i gadw yn y ddalfa yn dilyn treial.
Cafodd Saliba ei garcharu am 11 o flynyddoedd a bydd yn bwrw o leiaf ddwy ran o dair o'r ddedfryd cyn iddo gael ei ryddhau ar drwydded. Bydd hefyd yn droseddwr rhyw cofrestredig am weddill ei oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Charlotte Watkins:
“Gwnaeth gweithredoedd Justin Saliba y noson honno niwed anadferadwy i'w ddioddefwr. Gwadodd y drosedd ac wrth wneud hynny mae wedi gorfodi i'w ddioddefwr fynd drwy drawma treial ac wedi gorfodi iddi aros blynyddoedd am gyfiawnder.
“Mae'n rheibiwr peryglus a nawr bydd yn y carchar am nifer o flynyddoedd, lle na fydd yn fygythiad i eraill.
“Rwy'n gobeithio y bydd ei ddioddefwr yn cael rhywfaint o gysur yn gwybod hynny ac y gall ddechrau'r broses anodd o ailadeiladu ei bywyd.”
Os yw trosedd rhywiol wedi effeithio arnoch chi, rhowch wybod i ni. Gall ein tîm o swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig eich cefnogi.
Am ganllawiau ar sut i roi gwybod am drais rhywiol a throseddau rhywiol eraill, gweler yma: Rhoi gwybod am drais rhywiol, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru