Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dydd Gwener 15 Awst yn nodi 80 o flynyddoedd ers Diwrnod VJ pan gafodd buddugoliaeth ar Japan ei datgan a daeth y gwrthdaro byd-eang, sef yr Ail Ryfel Byd, i ben.
Er i Ewrop ddathlu bod lluoedd yr Almaen wedi ildio ar Ddiwrnod VE ym mis Mai 1945, parhaodd miloedd o Luoedd Prydeinig, y Gymanwlad a'r Lluoedd Cynghreiriol i frwydro yn y Dwyrain Pell. Roedd hynny tan i Ddiwrnod VJ gael ei ddatgan.
Rhyfel yn y Pasiffig
Rhwng 1941 ac 1945, roedd rhyfel ffyrnig yn y Pasiffig rhwng Japan, un o brif gynghreiriaid yr Almaen, a Phrydain, y Gymanwlad a'u cynghreiriaid. Roedd yr amodau yn y Dwyrain Pell yn wahanol iawn i'r rhai yn y rhyfel yn Ewrop. Cynhaliwyd brwydrau dros gefnforoedd, yn y jynglau, dros fryniau dan eira ac mewn tymereddau chwilboeth ar ynysoedd anghysbell a phell i ffwrdd.
Collodd rhwng 100,000 a 200,000 o filwyr Cynghreiriol eu bywydau yn y Dwyrain Pell yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd dau o'r rheini yn swyddogion yr heddlu o Forgannwg: Joseph Hubert Hill, a fu farw o anafiadau a gafodd yn ystod cyrch awyr Japaneaidd ym Malaya ym mis Rhagfyr 1941, a Godfrey Howard Stenner, a gafodd ei ladd ar faes y gad ym Mrwydr Kohima yn India ym mis Ebrill 1944.
Caiff enwau'r ddau ddyn eu cofio ar Gofeb Rhyfel Heddlu Morgannwg ym Mhencadlys yr Heddlu. Cânt eu cofio hefyd yn Rhestr Gwroniaid yr Ail Ryfel Byd a gynhyrchwyd i nodi 80 o flynyddoedd ers diwedd y Rhyfel.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Ar Ddiwrnod VJ, anrhydeddwn yr holl bobl a frwydrodd ac a wasanaethodd yn y Dwyrain Pell yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan dalu teyrnged arbennig i'n cydweithwyr Joseph Hubert Hill a Godfrey Howard Stenner.
“Gwnaeth eu dewrder a'u haberth sicrhau heddwch na fydden nhw eu hunain fyth yn ei weld. Mae'n ddyletswydd arnom i'w cofio. Ni chânt fyth eu hanghofio.”
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd. Ni chânt eu hanghofio.