Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A eto.
Cafodd Dean Kelshaw, 40 oed o ganol dinas Abertawe, ei stopio a'i chwilio yn y stryd ym mis Mehefin a chanfuwyd bod ganddo swm mawr o arian parod a ffôn symudol a oedd yn derbyn nifer mawr o alwadau ffôn yn ei feddiant. Daethpwyd o hyd i fag yn cynnwys swm mawr o gocên ar y llawr gerllaw.
Plediodd Kelshaw, sydd wedi cael tair euogfarn flaenorol am gyflenwi cyffuriau, yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant a bod â chyffur Dosbarth B (canabis) yn ei feddiant.
Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd ac wyth mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Luke Tucker:
“Nid yw Dean Kelshaw, sydd wedi cael sawl euogfarn flaenorol am yr un troseddau, wedi dangos unrhyw barodrwydd i drawsnewid ei fywyd.
“Bydd y cyffuriau anghyfreithlon yr oedd yn eu gwerthu ar strydoedd Abertawe yn cael effaith ddifrifol ar y sawl sy'n eu defnyddio a'u cymuned ehangach. Nid oedd Dean Kelshaw yn poeni dim am hynny – dim ond am wneud arian yn anghyfreithlon.
“Mae bellach yn dechrau cyfnod hir haeddiannol yn y carchar.”