Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cwpl wedi cael eu dedfrydu ar ôl i swyddogion eu gweld yn delio cyffuriau o'u fan.
Roedd James Hannify, 43 oed, a Michele Bradshaw, 41 oed o Flaenymaes, yng nghwmni eu plentyn ifanc pan wnaethant ymgymryd â'u gweithgaredd anghyfreithlon, a chawsant eu harestio gan swyddogion yn dilyn hynny.
Daethpwyd o hyd i symiau sylweddol o arian parod a sylweddau yn y cerbyd ac yn ddiweddarach yn ystod chwiliad o gartref y cwpl. Daethpwyd hefyd o hyd i restr o gwsmeriaid ar ffonau symudol a atafaelwyd gan y ddau.
Plediodd James Hannify yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, bod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, ymwneud â chyflenwi canabis, bod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.
Plediodd Michele Bradshaw hefyd yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên a chanabis.
Mae Hannify wedi cael ei ddedfrydu i 32 mis yn y carchar. Mae Bradshaw wedi cael dedfryd o fis yn y carchar, wedi'i ohirio am 18 mis.
Dywedodd Rhingyll yr Heddlu Ceriann Howell:
“Os nad yw'r ffaith bod James Hannify a Michele Bradshaw wedi ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn ddigon gwael, mae'r ffaith eu bod wedi gwneud hynny pan oedd eu plentyn eu hunain yn y car gyda nhw yn brawf damniol o'u cymeriad.
“Dywedodd y ddau eu bod yn pryderu am yr effaith ar eu plentyn pe baent yn cael eu hanfon i'r carchar. Dylent fod wedi meddwl am hynny cyn iddynt benderfynu dechrau delio cyffuriau.”
Mae mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i fynd ati'n ddiflino i fynd ar ôl troseddwyr er mwyn diogelu ein cymunedau rhag niwed.
Os byddwch yn amau bod rhywun yn delio cyffuriau neu'n poeni bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os bydd trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.