Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw o Rondda Cynon Taf wedi cael ei charcharu ar ôl cael ei chanfod yn euog o sawl trosedd yn ymwneud â phlant.
Cafwyd Leah Church, 37 oed o Donyrefail, yn euog o sawl achos o greulondeb i blant, a throsedd rywiol yn Llys y Goron Abertawe ar 15 Awst.
Cafodd Church ei dedfrydu i bum mlynedd yn y carchar. Pan gaiff ei rhyddhau, bydd yn ofynnol iddi gofrestru fel troseddwr rhyw cofrestredig am 10 mlynedd a bydd yn destun
Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a gorchymyn atal.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Amanda Jenkins:
“Rwy'n canmol dioddefwyr y troseddau hyn am ddod ymlaen a rhoi gwybod i ni amdanynt.
“Maen nhw wedi cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol drwy gydol yr ymchwiliad hwn, ac rwy'n falch o weld Church yn cael ei dwyn i gyfrif."