Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar ôl lansio ymchwiliad i lofruddiaeth yn gynharach heddiw (21 Awst), mae ditectifs bellach yn apelio am wybodaeth.
Cafodd swyddogion eu galw i South Morgan Place, Glan yr Afon am 7.37am fore heddiw (21 Awst) yn dilyn adroddiadau bod menyw wedi'i hanafu'n ddifrifol.
Cafodd parafeddygon eu galw hefyd, ond er gwaethaf eu hymdrechion gorau, cafodd menyw yn ei 30au ei datgan yn farw yn y fan a'r lle. Mae ei pherthnasau agosaf wedi'u hysbysu.
Cafodd dyn 37 oed, yr oedd y dioddefwr yn ei adnabod, ei arestio mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth yn fuan wedi hynny ar Seawall Road, y Sblot. Mae'n parhau i fod yn nalfa'r heddlu.
Gofynnir i unrhyw un a oedd ar South Morgan Place, neu Seawall Road neu gerllaw rhwng 7.30am a 8.30am wirio deunydd fideo o'u CCTV preifat neu gamera dashfwrdd.
Rydym am glywed yn benodol gan bobl a oedd yn teithio rhwng yr ardaloedd hyn, gan gynnwys Stryd Wellington, Clare Road, Heol Penarth a Stryd Ddwyreiniol Tyndall, yn ystod y cyfnod hwn nad ydynt eisoes wedi siarad â swyddogion.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Matthew Davies:
"Mae gennym dîm dynodedig o ymchwilwyr sydd wedi bod yn cynnal ymholiadau helaeth yn yr ardal, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â gwybodaeth hyd yn hyn.
"Rydym yn apelio at unrhyw un sydd â deunydd fideo o CCTV, camera dashfwrdd neu gamera cloch drws, neu unrhyw un arall a all fod wedi gweld rhywbeth amheus, i gysylltu â ni.
"Rydym yn chwilio'n benodol am unrhyw beth yn ymwneud â char Ford Fiesta llwyd yn yr ardaloedd a nodwyd."
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy'r ddolen hon.