Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol ar ferch 12 oed yn y Barri dros y penwythnos.
Cafodd yr heddlu eu galw tua 5pm ddoe (dydd Sul, 24 Tachwedd) i ymateb i ymosodiad ger maes parcio Harbour Road yn Ynys y Barri.
Cafodd y ferch ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gydag anafiadau difrifol. Caiff ei chyflwr ei ddisgrifio fel un nad yw'n peryglu bywyd.
Mae dau fachgen lleol 13 a 15 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac maent yn y ddalfa o hyd. Mae'r bachgen ieuengaf hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod ag eitem lafnog yn ei feddiant.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd, Phil Marchant o Heddlu De Cymru: "Yn ddealladwy, bydd y digwyddiad hwn ac oedrannau'r rhai dan sylw yn achosi pryder yn y gymuned.
"Cafodd dau unigolyn dan amheuaeth, yr oedd y dioddefwr yn eu hadnabod, eu harestio o fewn awr ac, ar hyn o bryd, nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymosodiad."
Mae mynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ac, fel bob amser, rydym yn annog rhieni, gofalwyr ac athrawon i drafod peryglon cario cyllell â phobl ifanc.
Drwy ein hymgyrch #DdimYrUn, rydym yn anelu at addysgu pobl ifanc am beryglon cario cyllell drwy roi'r adnoddau sydd eu hangen ar rieni, athrawon a grwpiau cymunedol i wneud hynny.
I gael gwybod mwy ewch i https://www.nottheone.co.uk/cy/