Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Cymru â'i golygfeydd godidog a'i rhwydwaith ffyrdd amrywiol yn denu beicwyr modur o bell ac agos.
Er bod ffyrdd Cymru ymysg y rhai mwyaf diogel yn y byd, mae beiciwr modur 58 gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad na pherson sy'n teithio mewn car neu dacsi. Felly, mae lleihau nifer y beicwyr modur sy'n cael eu hanafu neu eu lladd yng Nghymru yn dal yn flaenoriaeth.
Cafodd 536 o feicwyr modur eu hanafu yn ôl cofnodion yr heddlu yn 2023, gyda 268 o'r rheini yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.
Er mwyn mynd i'r afael â'r risg anghymesur hon, mae Diogelwch Ffyrdd Cymru wedi cyhoeddi'r cyngor canlynol i feicwyr modur a modurwyr eraill:
Cyngor i feicwyr
Gall hyd yn oed y beiciwr modur fwyaf profiadol gael budd o gymryd rhan mewn hyfforddiant ar ôl eu prawf neu gael asesiad o'u reidio. Rydym felly yn annog beicwyr modur i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael ledled Cymru – nifer ohonynt wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru – er mwyn gwella eu sgiliau reidio a'u gwybodaeth.
Mae paratoi cyn pob taith yn allweddol i'ch diogelwch. Archwiliwch eich offer a'ch beic yn ofalus er mwyn gwneud yn siŵr bod popeth yn gweithio'n iawn, gan dalu sylw arbennig i gyflwr eich teiars, breciau a goleuadau - gallai achub eich bywyd. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod wedi paratoi'n drylwyr; peidiwch byth â reidio pan fyddwch yn ddig, neu dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Cyngor i yrrwyr eraill
Er bod y mwyafrif llethol o feicwyr modur yn dangos safon da wrth reidio, mae lleiafrif bach yn dewis defnyddio'r ffyrdd mewn ffordd anghyfrifol, gan beri risg diangen iddyn nhw eu hunain ac i ddefnyddwyr eraill. Bydd heddluoedd ledled Cymru yn targedu'r unigolion hyn, gan roi neges glir na chaiff ymddygiad reidio gwael na gwrthgymdeithasol eu goddef.
Mae partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru yn rhannu'r un nod – bod trigolion ac ymwelwyr a ddaw i Gymru yn defnyddio'r ffyrdd yn gyfrifol ac yn cyrraedd adref yn dd ddiogel.
Am fwy o wybodaeth ewch i walesbybike.com