Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymchwilio i nifer o fwrgleriaethau a wnaeth ddigwydd yng Nghaerdydd a Phenarth yn ddiweddar, lle cafodd allweddi ceir a cheir eu dwyn.
Mae cartrefi ym Mae Caerdydd, Penarth, Pen-y-lan, Yr Eglwys Newydd, Rhiwbeina a Llanedern wedi cael eu targedu.
Credir mai'r un unigolyn neu unigolion sy'n gyfrifol.
Maent yn cael mynediad cyflym drwy ddrysau heb eu cloi gyda'r nos ac yn gadael gydag eitemau gwerthfawr, allweddi ceir ac yna gar y perchennog.
Gwnewch yn siŵr bod eich drysau ar glo a chadwch allweddi ceir wedi'u cuddio ac allan o'r golwg. Mae'r mathau o geir sydd wedi cael eu dwyn yn cynnwys Mazda MX5, BMW, Mercedes, Audi, a Volkswagen.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd, Phil Marchant o Heddlu De Cymru: “Mae ymchwiliad mynd rhagddo i nodi a dod o hyd i'r sawl sy'n gyfrifol am y bwrgleriaethau diweddar hyn, ond yn y cyfamser, hoffwn bwysleisio i breswylwyr pa mor bwysig ydyw eu bod yn storio eu heiddo, yn enwedig allweddi ceir, yn ddiogel – hyd yn oed tra byddant yn eu cartref eu hunain.”
Cyngor i ddiogelu eich eiddo:
Cadwch ddrysau ar glo, hyd yn oed os byddwch gartref
Cuddiwch allweddi cerbydau ac eiddo gwerthfawr allan o'r golwg
Os oes gennych deledu cylch cyfyng, sicrhewch ei fod wedi'i droi ymlaen a'i fod yn recordio
Os oes gennych olau allanol, gwnewch yn siwr ei fod wedi'i droi ymlaen.
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw ymddygiad neu gerbydau amheus, rhowch wybod i ni.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.