Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ddau unigolyn a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ar yr A4050 ger y Barri ddydd Sadwrn, 2 Tachwedd, wedi cael eu henwi fel Madeline Elaine Brooks, 85 oed, a Beverley Pugsley, 69 oed.
Mae eu teuluoedd wedi talu'r teyrngedau canlynol iddynt:
“Roedd Madeline Elaine Brooks, mam, mam-gu, hen fam-gu a modryb, a gafodd ei geni ym Mhenarth wedi byw yn y Barri ers dros 65 mlynedd.
“Roedd Madeline yn fenyw fywiog, yn llawn egni.
“Roedd wrth ei bodd gyda dawnsiau neuadd ac roedd yn athrawes mewn llawer o leoliadau ledled Cymru, ac yn dal i fynd i ddawnsiau prynhawn yn ei blynyddoedd olaf.
“Roedd yn weithgar iawn, yn mwynhau garddio ac roedd yn mynd allan drwy'r amser yn siopa, ymweld â llefydd a mynd ar wyliau, gan fynd i Ddyfnaint yn bennaf.”
“Cafodd Beverley Pugsley ei geni yn Llandaf, Caerdydd ac roedd yn byw yno.
“Roedd Beverley yn fenyw dawel a oedd yn dwli ar ei gwaith, a hithau wedi gweithio i'r BBC am y rhan fwyaf o'i bywyd mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys bod yn Ymchwilydd ar gyfer llawer o raglenni teledu. Roedd yn gweithio'n rhannol o hyd ar ôl iddi ymddeol.
“Treuliodd ei hamser yn cymdeithasu â'i chefnder a'i modryb yn ymweld â llefydd yn y Fro ac roedd wrth ei bodd yn mynd ar wibdeithiau, yn enwedig i Ddyfnaint”.
Mae dau ddyn, 24 a 67 oed, yn dal i fod yn yr ysbyty.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â deunydd fideo ar gamera dashfwrdd i gysylltu â'r heddlu.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Rhingyll Gareth Jones-Roberts:
“Rydym yn apelio i unrhyw un a oedd yn gyrru yn yr ardal rhwng 1.30pm a 1.50pm brynhawn dydd Sadwrn sydd ag unrhyw wybodaeth a all helpu'r ymchwiliad hwn i gysylltu â ni.
“Os oes gennych gamera dashfwrdd yn eich cerbydau, cysylltwch â ni. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un a all roi manylion ychwanegol ar y modd yr oedd car Audi RS 4 llwyd yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad."
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd isod gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2400365249.
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein yn Rhoi Gwybodaeth | Crimestoppers (crimestoppers-uk.org)