Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mynegodd Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh bryderon difrifol am ymateb yr heddlu i stelcio yn ei huwch-gŵyn, ar ran y Consortiwm Stelcio Cenedlaethol.
Aeth Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) a'r Coleg Plismona ati ar y cyd i gynnal ymchwiliad cynhwysfawr i'r materion a godwyd a chanfuwyd tystiolaeth glir i gefnogi rhai o'r pryderon.
Daeth yr ymchwiliad o hyd i enghreifftiau o'r heddlu'n cymryd stelcio o ddifrif, gan ddiogelu dioddefwyr yn dda a chan gynnal ymchwiliadau da, ond roedd gormod o achosion lle nad oedd ymateb yr heddlu yn ddigon da a lle roedd y dioddefwyr yn cael eu siomi.
O ganlyniad, cafodd holl heddluoedd y DU y dasg o gyhoeddi eu cynlluniau gweithredu er mwyn dangos sut maent yn cyrraedd y safonau disgwyliedig ac yn gweithio'n barhaus i wella'r ffordd maent yn ymateb i stelcio.
Gellir darllen ein cynllun gweithredu yn llawn yma.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jason Davies:
“Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu ein cymunedau. Rydym yn croesawu'r canfyddiadau a'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad i'r Uwch-gŵyn ar Stelcio. Mae stelcio yn drosedd lechwraidd a all gael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr, ac mae dyletswydd arnom i sicrhau y caiff pob achos ei drafod â'r gofal, y tosturi a'r proffesiynoldeb eithaf.
“Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at wersi pwysig i bob heddlu, ac rydym yn benderfynol o weithredu ar y rhain i wella ein hymateb. Yn Ne Cymru, rydym eisoes yn gwella hyfforddiant, yn cryfhau partneriaethau, ac yn mireinio prosesau i sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwrando arnynt.
“Bydd ein swyddogion a'n staff yn parhau i weithio'n galed i ddarparu dull sy'n canolbwyntio ar ddioddefwyr, sy'n gwneud troseddwyr yn atebol, ac yn sicrhau nad oes yr un dioddefwr stelcio yn teimlo bod yr heddlu yn ei siomi.
“Byddwn yn gofyn i unrhyw un y mae angen iddo roi gwybod am achos o stelcio i gysylltu â ni er mwyn i ni allu ymchwilio i'r drosedd ofnadwy hon, ymdrin â hi a helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.”