Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym wedi cael nifer o adroddiadau am grwpiau bach o fasnachwyr twyllodrus yn gweithredu yn ein hardal, yn cynnig gwaith ac yn defnyddio amrywiaeth o dactegau clyfar i roi pwysau arnoch i brynu rhywbeth nad ydych ei eisiau, nad ydych ei angen, neu nad yw'n werth am arian.
Gall y mathau hyn o dwyll gynnwys gwaith cadw tŷ neu welliannau am bris rhy uchel neu anghyflawn, ac mewn rhai achosion lleol, mae grwpiau o fasnachwyr wedi tynnu landerau i lawr, cyn cynnig eu gwasanaethau – am ffi – i'w gosod.
Ac mae yna adroddiadau am y masnachwyr twyllodrus hyn yn anfon eu dioddefwyr i'r banc, neu hyd yn oed yn mynd â nhw yno eu hunain, i gael taliad am eu ‘gwaith’.
Byddwch yn wyliadwrus o beryglon pobl yn mynd o ddrws i ddrws yn cynnig gwaith fel gosod pafin, landerau, garddio, torri coed, neu bob math o waith llafur arall.
Ni ddylech byth deithio gydag unrhyw un nad ydych yn ei adnabod i fanc neu beiriant ATM i godi arian, neu unrhyw le tebyg arall am unrhyw fath arall o daliad.
Os bydd rhywun rydych yn amau ei fod yn fasnachwr twyllodrus yn dod atoch, gofynnwch am ei fanylion, gan gynnwys cyfeiriad busnes parhaol a rhif ffôn llinell daear. Mae rhifau ffôn symudol a roddir ar gardiau busnes fel arfer yn rhifau talu wrth fynd sydd bron yn amhosibl eu holrhain.
Fodd bynnag, cofiwch ei fod yn bosibl y byddai masnachwyr twyllodrus yn cyflwyno hunaniaeth neu wybodaeth gyswllt ffug. Ac os byddwch yn eu talu ymlaen llaw, ni chewch eich arian yn ôl.
Mae hefyd bob amser yn ddefnyddiol bod yn wyliadwrus o agor eich drws i fwrgler posibl neu rywun sydd am ddod i mewn i'ch eiddo er mwyn galluogi pobl eraill i dorri i mewn. Unwaith y byddant yn mynd drwy'r drws, gall masnachwyr twyllodrus wneud nodyn o'ch eiddo gwerthfawr ac unrhyw fesurau diogelwch sydd gennych yn eu lle.
Os ydych wedi cael eich twyllo gan fasnachwyr ffug neu dwyllodrus, rhowch wybod i'r heddlu neu Action Fraud. Gallwch hefyd roi gwybod am y masnachwyr i Gyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, neu i'r Safonau Masnach Cenedlaethol os byddwch yn credu eu bod wedi gwerthu cynhyrchion neu wasanaethau diffygiol, israddol neu am bris rhy uchel.
Os byddwch yn penderfynu prynu: