Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r arddangosfa o eitemau yn adrodd straeon o droseddau a gyflawnwyd dros y Nadolig.
Agorodd Heddlu De Cymru siop dros dro yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant, Abertawe, gan roi cyfle i aelodau o'r cyhoedd weld eitemau'n cael eu harddangos yn seiliedig ar straeon go iawn, ac i siarad â swyddogion am gyngor atal troseddau dros yr ŵyl.
Agorwyd y siop dros dro fel rhan o ymgyrch “Cost y Nadolig” sy'n archwilio canlyniadau posibl costau troseddau i chi. Boed yn golled bywyd, yn gar wedi'i ddifrodi'n llwyr, yn fenyw llawn ofn, neu'n ddedfryd yn y carchar, mae'r heddlu yn codi ymwybyddiaeth o'r gost wirioneddol bosibl, pe baech yn cyflawni trosedd.
Mae Cost y Nadolig yn lleoliad y mae swyddogion yn annog pobl i ymweld ag ef dros fis Rhagfyr, er mwyn dysgu o straeon go iawn sydd wedi digwydd dros gyfnod y Nadolig i bobl yn Ne Cymru a'r gost i'r troseddwr a'r dioddefwyr.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona yn y Gymdogaeth ar gyfer Canol Abertawe, Andrew Hedley: “Yr adeg hon o'r flwyddyn, mae llawer ohonom yn allan yn mwynhau ein hunain ac yn prynu anrhegion ar gyfer ffrindiau a theulu, ond yn anffodus nid yw hyn yn wir i bawb dros y Nadolig.
“Drwy agor ein siop dros dro, rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o droseddau rydym yn eu gweld dros y Nadolig, gan gynnwys cam-drin domestig, gyrru dan ddylanwad alcohol/cyffuriau, trais sy'n gysylltiedig â'r economi liw nos, sgamiau, a throseddau meddiangar.
“Rydym am i bobl feddwl ddwywaith am gyflawni'r troseddau hyn a dangos y canlyniadau drwy ddangos cost bosibl troseddau i chi. Gwyddom hefyd y bydd rhai pobl yn wynebu risg o gael eu cam-drin neu fath arall o droseddu, felly mae'n bwysig ein bod yma i roi cyngor diogelwch.”
Bydd ein partneriaid yn Nhîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Dinas Abertawe hefyd yn bresennol dros fis Rhagfyr. Bydd amrywiaeth o sefydliadau partner Abertawe Mwy Diogel yn bresennol ac yn barod i siarad â siopwyr y Nadolig ac ateb unrhyw bryderon diogelwch a all fod ganddynt.
Dywedodd Hayley Gwilliam, Aelod o Gabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Cymorth Cymunedol: “Rydym yn falch iawn o ymuno â Heddlu De Cymru wrth gyfri'r diwrnodau i'r Nadolig.
“Drwy bwysleisio effaith cyflawni troseddau yr adeg hon o'r flwyddyn ynghyd â'r hyn y gallwch ei wneud i atal hyn, rydym yn gobeithio y bydd mwy fyth ohonom yn ddiogel ac yn hapus dros gyfnod yr ŵyl.”
Bydd y siop dros dro wedi'i staffio gan swyddogion yn ystod oriau agor, a fydd yn hapus i siarad ag unrhyw un sydd â phryderon. Bydd hefyd ymweliadau gan adrannau Heddlu De Cymru gan gynnwys Uned Plismona'r Ffyrdd, Cŵn Llesiant yr Heddlu, y Tîm Seiberdroseddu, a'r Tîm Ymchwilio i Achosion o Dreisio. Bydd yr ymweliadau hyn ac amserlen yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cost y Nadolig.
Bydd y siop ar agor o ddydd Gwener 29 Tachwedd i ddydd Mawrth 24 Rhagfyr bob dydd rhwng 10.00am a 4.00pm. Gellir dod o hyd iddi gyferbyn â WHSmith ger mynedfa Stryd Nelson.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, cyngor ar ddiogelwch, ac ymweliadau cymorth, ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/campaigns/ymgyrchoedd/cost-y-nadolig/