Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i farwolaeth Kyle Vernon, 37 oed, yn gofyn i'r cyhoedd am help gyda'u hymchwiliadau. Roedd Kyle yn Afon Ogwr Fawr yn agos at Cemetery Road, Cwm Ogwr.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Steve Jones: "Rydym yn parhau i weithio er mwyn deall yr amgylchiadau am farwolaeth Kyle ac rydym wedi bod yn siarad â phobl yn yr ardal ac yn gwylio deunydd fideo teledu cylch cyfyng a chamerâu drws lleol.
"Rwy'n cyhoeddi'r deunydd fideo hwn sy'n dangos Kyle am 8.59pm ddydd Gwener 15 Rhagfyr, ac fel y gwelwch, mae'n gwisgo siwmper fwrgwyn â chwfl a throwsus tracsiwt llwyd tywyll.
"Mae angen i ni lenwi'r bwlch rhwng yr amser pan gafodd Kyle ei weld a phan ddaethpwyd o hyd iddo yn yr afon ychydig dros filltir lawr y cwm, a allai gymryd tua hanner awr i gerdded rhwng y lleoliad hwn a lle y daethpwyd o hyd i Kyle yn yr afon.
"Mae fy nhîm yn ceisio cadarnhau symudiadau Kyle yn yr oriau cyn iddo fynd i'r afon ac fel rhan o'n hymchwiliad rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld Kyle ar unrhyw ddeunydd fideo teledu cylch cyfyng, camera dashfwrdd neu gamera drws i gysylltu â ni.
"Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un a oedd yng nghyffuniau North Road, y llwybrau o gwmpas Ysgol Gynradd Cwm Ogwr, Saville Road, neu Ystad Ddiwydiannol Penllwyngwent unrhyw bryd ar ôl 8pm nos Wener 15 Rhagfyr a allai fod â gwybodaeth a allai helpu swyddogion i ddeall amgylchiadau marwolaeth Kyle.
"Mae ein cydymdeimladau yn dal gyda theulu Kyle."
Gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd isod, gan ddyfynnu rhif digwyddiad *2300426636.