Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn 43 oed yn ardal Llaneirwg o'r ddinas.
Rhoddwyd gwybod i'w deulu ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Ymatebodd y gwasanaethau brys i adroddiadau am achos o drywanu ar Heol Trostre am tua 4pm ddoe (Dydd Mawrth, 12 Tachwedd).
Mae cordonau'r heddlu yn eu lle o hyd wrth i ymchwiliadau fynd rhagddynt.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Raikes o'r Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr: "Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau, ac rydym yn apelio at dystion a oedd yn ardaloedd Heol Trostre a Coleford Drive o Laneirwg am tua 4pm ddoe i gysylltu â ni gyda gwybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys y gall y wybodaeth honno fod yn eu barn nhw.
"Rydym hefyd yn apelio at unrhyw un sydd â deunydd fideo oddi ar ffôn symudol neu CCTV i gysylltu â ni.
“Bydd mwy o swyddogion yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i swyddogion wneud eu hymholiadau.”
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo ar-lein drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol:
https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B97-PO1