Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae John Stringer o'r Tyllgoed, Caerdydd wedi cael ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn merch o dan 13 oed.
Gwadodd Stringer y pum trosedd, ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd fis Medi 2024.
Clywodd y llys fod y dyn 43 oed yn gwasanaethu fel swyddog gyda Heddlu Gwent adeg y troseddau rhyw, ond cafodd y troseddau eu cyflawni yng Nghaerdydd lle'r oedd yn byw.
Daeth ei droseddau i'r amlwg ym mis Gorffennaf 2021, pan wnaeth y dioddefwr ddatgeliad yn yr ysgol a chynhaliwyd ymchwiliad gan Uned Ymchwiliadau Amddiffyn Plant Heddlu De Cymru.
Cafodd Stringer ei arestio a'i gyhuddo o ddau achos o ymosodiad rhywiol drwy gyffwrdd, dau achos o achosi/ysgogi plentyn i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol ac un achos o wneud i blentyn wylio gweithred rywiol.
Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Ringyll Annalisa Bartley, o Heddlu De Cymru:
"Roedd y dioddefwr yn yr achos hwn yn hynod ddewr a stoic yn siarad allan ac yn helpu i ddwyn John Stringer ger bron ei well. Fel swyddog heddlu, roedd y gymuned yn ymddiried yn Stringer.
"Gwnaeth Stringer i'r dioddefwr deimlo fel ei bod yn dweud celwydd, ond cafodd ei disgrifiadau manwl a phenodol eu cefnogi gan ddadansoddiad ffon symudol.
"Mae gweithredoedd Stringer wedi cael effaith ddifrifol ar y ferch ifanc a'i theulu sydd wedi gweithredu gydag urddas ac amynedd drwy gydol yr ymchwiliad.
"Rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn caniatáu iddi barhau â'r broses adfer o'r profiad erchyll hwn."
Ddydd Llun, 4 Tachwedd, dedfrydwyd Stringer i 10 mlynedd yn y carchar. Cafodd hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol 5 mlynedd a Gorchymyn Atal am gyfnod amhenodol.
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Tom Moore o Heddlu De Cymru:
"Rydym yn annog dioddefwyr ymosodiadau rhywiol i roi gwybod i ni yn gyfrinachol. Peidiwch â gadael i broffesiwn pobl eich atal. Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob honiad o ddifrif – byddwch yn cael eich clywed, ac mae cefnogaeth ar gael."