Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Heddlu De Cymru ei alw am 8.20pm nos Fercher 13 Tachwedd yn dilyn adroddiad o ffrae yn Las Iguanas ar Sgwâr Tacoma yng Nghei'r Fôr-forwyn, lle yr honnir y cafodd sylwedd cyrydol ei daflu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phil Marchant:
“Roedd pedwar dyn yn eistedd yn y bwyty pan redodd dau ddyn arall i mewn i'r bwyty a thaflu sylwedd atynt.Cafodd dodrefn eu codi a'u taflu hefyd.
“Yna rhedodd y pedwar dioddefwr gwrywaidd a'r ddau unigolyn gwrywaidd dan amheuaeth allan o'r bwyty.
“Rydym yn cydnabod bod y cyhoedd yn bryderus iawn yn dilyn y digwyddiad hwn. Fodd bynnag, ni roddwyd gwybod am unrhyw anafiadau ac, ar hyn o bryd, ni chredir bod yr hylif yn un niweidiol.
“Rydym ar ddeall bod y ddau barti wedi cael ffrae flaenorol mewn rhan arall o Gei'r Fôr-forwyn tua 6.15pm y noson honno, ac felly rydym yn credu bod hwn yn ymosodiad wedi'i dargedu.
“Mae ymchwiliadau yn parhau i adnabod y chwe dyn a dod o hyd iddynt.”
Hoffai swyddogion siarad ag unrhyw un a oedd yn Las Iguanas, neu yn ardal Sgwâr Tacoma, rhwng 6.15pm a 8.30pm a all fod â gwybodaeth a allai gynorthwyo eu hymchwiliadau.
Gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2400378983.
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*