Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd y grŵp troseddau cyfundrefnol yn gyfrifol am gyflenwi cyffuriau Dosbarth A ledled de Cymru
Yn ystod y dyddiau cyn hyn, gwnaed llawer o alwadau ffôn rhwng Davies a dau aelod arall o'r grŵp troseddau, Ethan James a Dominic Isaacs.
Drwy gydol mis Medi a mis Hydref 2021, gwnaed llawer o alwadau ffôn rhwng Akthar a chyflenwr cyffuriau adnabyddus o Lundain, Khadar Mire.
Ar 29 Medi, teithiodd Mire i Gaerdydd a chwrdd ag Akthar, ei bartner Aurelia Sterian ac Abdi Dualeh. Aethant i fflat yr oedd Sterian wedi'i rhentu am ychydig ddyddiau a chawsant eu gweld yn cario bagiau llawn i mewn i'r adeilad.
Ar 22 Tachwedd, gyrrodd Hafiz Aslam, a oedd yn cael ei ddefnyddio i gludo cyffuriau gan Akthar, i ardal yn Llundain a oedd yn yr un cod post â chyfeiriad cartref Mire. Cafodd Aslam ei stopio gan yr heddlu ar ei ffordd yn ôl i Gymru a chanfuwyd 4.5 cilogram o heroin yn ei feddiant.
Ar 3 Rhagfyr, gwnaed nifer o alwadau ffôn arwyddocaol rhwng Akthar, Dualeh, ac unigolyn arall, Mohamoud Goth. Trefnodd Akthar i Dualeh fynd i gyfeiriad Goth ar yr un diwrnod.
Cafwyd cysylltiad hefyd rhwng Akthar a Leighton Morris, cwsmer heroin o Lansawel. Cafodd Morris ei weld yn cyrraedd cyfeiriad Goth ac yn ymuno ag ef yn ei gerbyd am gyfnod byr. Yna gwnaethant wahanu.
Cafodd Morris ei stopio gan yr heddlu ar ei ffordd yn ôl i Lansawel gyda hanner cilogram o heroin yn ei feddiant.
Ar 14 Rhagfyr, cafodd Akthar a Goth eu harestio. Canfuwyd bod fflat Goth yn cynnwys clorian, bagiau plastig bach, swm o gyfrwng torri a symiau mawr o gocên, crac cocên a heroin.
Daethpwyd o hyd i £500 o arian parod ar ôl chwiliad yn nhŷ Akthar, yn ogystal â pheiriant cyfrif arian, cloriannau ag olion o gocên a heroin arnynt a gemwaith drud gan gynnwys oriorau Cartier a Rolex.
Cafodd Tufial Akthar (a enwir hefyd yn Mohamed Ali), 41 oed, o'r Rhath, Caerdydd, ei ddedfrydu i 17 mlynedd a chwe mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A. Cafodd Akthar ei ddedfrydu i wyth mlynedd a phedwar mis ychwanegol am ddefnyddio gwasanaeth cyfathrebu 'EncroChat' wedi'i amgryptio.
Atafaelwyd cyfanswm o 5.25 cilogram o heroin a 1.5 cilogram o gocên fel rhan o ymgyrch Solidago. Amcangyfrifwyd bod cyfanswm gwerth stryd y cyffuriau a gafodd eu hadfer, a oedd ond yn rhoi cipolwg o'r hyn yr oedd y grŵp troseddau cyfundrefnol yn ei fasnachu, rhwng £157,510 a £219,680.
Cafodd Khadar Mire, 37 oed, o Lewisham, Llundain, ei ddedfrydu i 15 mlynedd a phedwar mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafodd Ethan James, 29 oed, o Lanelli, ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafodd Abdi Dualeh, 29 oed, o Fae Caerdydd, Caerdydd, ei ddedfrydu i naw mlynedd a chwe mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafodd Mohamoud Goth, 39 oed, o Lakeside, Caerdydd, ei ddedfrydu i naw mlynedd a dau fis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafodd Jamie Davies, 30 oed, o Lanelli, ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafodd Leighton Morris, 53 oed, o Lansawel, ei ddedfrydu i saith mlynedd a dau fis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafodd Dominic Isaacs, 34 oed, o Gasnewydd, ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafodd Grant Clarke, 29 oed, o Orseinon, ei ddedfrydu i bum mlynedd ac wyth mis yn y carchar am fod â chyffur dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi – cocên.
Cafodd Hafiz Aslam, 36 oed, o Bentref Llaneirwg, Caerdydd, ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar am fod â chyffur dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi – heroin.
Cafodd Rhydian Charles, 27 oed, o Lanelli, ei ddedfrydu i bedair blynedd a phum mis yn y carchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Cafodd Aurelia Sterian, 28 oed, o'r Rhath, orchymyn cymunedol.
Dywedodd Andrew Jones, CB yr erlyniad:
“Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth a oedd yn cynnwys troseddwyr profiadol oedd â gwybodaeth am dactegau'r heddlu. Fodd bynnag, mae'r heddlu wedi gweithio'n ddiflino i gasglu
tystiolaeth gymhellol o'u camweddau.”
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Gibbins o Tarian:
“Mae ymgyrch Solidago yn enghraifft wych o'r ffordd y gall swyddogion ymroddedig yr heddlu ddefnyddio sawl adnodd a thacteg i gosbi'r rhai sy'n gwerthu cyffuriau i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
“Roedd hwn yn ymchwiliad ar raddfa enfawr, a hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y canlyniad hwn.”