Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arweiniodd cyfres o arestiadau ledled de Cymru a Gorllewin Lloegr gyda'r nod o fynd i'r afael ag achosion o gyflenwi cyffuriau at roi 20 o bobl yn y ddalfa gan gynnwys 12 mewn un diwrnod.
Dan arweiniad Tarian, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol de Cymru, mae Ymgyrch Altar yn ymchwiliad ar raddfa eang i grŵp troseddau cyfundrefnol sy'n gyfrifol am gynhyrchu a chyflenwi cyffuriau Dosbarth B ledled rhanbarth De Cymru.
Cynhaliwyd y gweithgarwch gorfodi enfawr ddydd Llun, 4 Tachwedd ac roedd yn cynnwys dros 60 o swyddogion yr heddlu o'r Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, a Heddlu Dyfed Powys.
Ymunodd swyddogion o'r adran Gorfodi Mewnfudo, a staff yr heddlu â nhw. Cynhaliwyd gwarant ychwanegol gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn Yeovil ar yr un diwrnod.
O ganlyniad, mae 11 dyn wedi cael eu cyhuddo ac ar remand yn y ddalfa am gynllwynio i gynhyrchu canabis. Cafodd dau ohonynt eu cyhuddo hefyd o fod ag eiddo troseddol yn eu meddiant ac o droseddau'r Ddeddf Dogfennau Adnabod.
Chwiliwyd saith safle, gan arwain at atafaelu 140 cilogram o ganabis mewn bagiau cyfanwerthol a baciwyd dan wactod, tua £350,000 mewn arian parod a 10 cerbyd.
Y sawl a gyhuddwyd ac sydd ar remand yn y ddalfa yw;
Beqir Dedej, 27 oed, o Sili,
Esmirald Dedej, 26 oed, o'r Rhath,
Sajmir Kalemi, 31 oed, o Grangetown,
Andi Karaj, 20 oed, o'r Rhath,
Daja Klinton, 30 oed, heb gartref sefydlog
Dalip Lami, 24 oed, o'r Rhath,
Blenti Meta, 31 oed, o Cathays,
Gjergji Rapi, 35 oed, o Cathays,
Bugar Urici, 58 oed, o Grangetown,
Artur Verdini, 32 oed, o Benylan
Endri Vogli, 26 oed, o Grangetown.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Vinnie Easton o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:
“Mae Ymgyrch Altar wedi arwain at nodi a chau 12 o achosion o dyfu canabis ledled y rhanbarth hyd heddiw.
“Dim ond un enghraifft yw hon o'r ffordd y mae Tarian yn gweithio gyda heddluoedd a phartneriaid i fynd i'r afael â throseddau cyffuriau ar raddfa fawr. Mae'r ymgyrch wedi cynnwys chwech o alluoedd plismona arbenigol Tarian, y tri heddlu yn ein rhanbarth, partneriaid y Swyddfa Gartref, a Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.
“Ni ellir gorbwysleisio'r bygythiad gan grwpiau troseddau cyfundrefnol fel hwn. Maent yn targedu'r sawl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau, yn defnyddio trais a thactegau ymosodol, ac nid ydynt yn ystyried y niwed y maent yn ei achosi. Gwneud elw yw eu hunig fwriad.
“Mae Ymgyrch Altar yn parhau, ac rwy'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am amheuon o ganabis yn cael ei dyfu neu weithgarwch cyffuriau i roi gwybod yn ddienw i 101 neu Crimestoppers. Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni os gallwch wneud hynny.”
Mae'r adran Gorfodi Mewnfudo yn mynychu ymweliadau gan yr heddlu yn Ne Cymru yn rheolaidd lle mae'n debygol bod gwladolion tramor dan amheuaeth o fod yn y wlad yn anghyfreithlon. Mae hyn yn sicrhau'r gallu i gynnal arestiadau ar gyfer troseddau mewnfudo.
Dywedodd Richard Johnson, arweinydd Gorfodi Cydymffurfiaeth Mewnfudo y Swyddfa Gartref ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr:
“Mae'r ffordd y mae pobl yn cael eu trin pan gânt eu cyflogi'n anghyfreithlon yn greulon ac yn ffiaidd; yn wahanol iawn i'r celwyddau a werthir iddynt gan gangiau sy'n hwyluso eu taith i'r DU.
“Gwyddom mai cyflogaeth yw un o'r atyniadau mwyaf i'r bobl sy'n dod yma, ac mae'n bwysig eu bod yn deall y gallant gael eu dal mewn amodau anniogel ac ansicr, lle byddant yn wynebu achosion o gamfanteisio a chaethwasiaeth fodern hyd yn oed.
“Rydym yn falch o fod wedi cyfrannu at y broses o gael gwared ar y gweithrediad camfanteisiol ac anghyfreithlon hwn.”
Unigolion eraill a arestiwyd fel rhan o'r ymgyrch
Artan Dedia, 36 oed, heb gartref sefydlog, wedi'i gyhuddo o ymwneud â chyflenwi cyffur rheoledig dosbarth B – canabis, a chynhyrchu cyffur rheoledig dosbarth B – canabis. Cafodd hefyd ei gyhuddo o ddwyn/defnyddio trydan heb awdurdod
Ymddangosodd Dedia gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher 6 Tachwedd, a chafodd ei roi ar remand yn y ddalfa i ymddangos gerbron y llys eto ddydd Llun 2 Rhagfyr.
Plediodd Alban Qemalli, 31 oed, heb gartref sefydlog, yma yn anghyfreithlon, yn euog i ymwneud â chynhyrchu cyffuriau rheoledig dosbarth B – Canabis, ddydd Gwener, 11 Hydref. Mae wedi cael ei roi ar remand yn y ddalfa.
Armando Beti, 37 oed, heb gartref sefydlog, yma yn anghyfreithlon, wedi'i gyhuddo o gynhyrchu cyffuriau rheoledig dosbarth B – Canabis, ar remand yn y ddalfa.
Arsen Tanasica, 34 oed, heb gartref sefydlog, yma yn anghyfreithlon, wedi'i gyhuddo o gynhyrchu cyffuriau rheoledig dosbarth B – Canabis, ar remand yn y ddalfa.
Amarildo Daja, 27 oed, heb gartref sefydlog, yma yn anghyfreithlon, wedi'i gyhuddo o gynhyrchu cyffuriau rheoledig dosbarth B – Canabis, ar remand yn y ddalfa.
Hazis Rapi, 42 oed, heb gartref sefydlog, wedi'i gyhuddo o gynhyrchu cyffuriau rheoledig dosbarth B – Canabis, ar remand yn y ddalfa.
Jurgen Kodra, 30 oed, heb gartref sefydlog, yma yn anghyfreithlon, wedi'i gyhuddo o gynhyrchu cyffuriau dosbarth B – Canabis, plediodd yn euog yn Llys y Goron Llanelli ar y 24ain ac mae ar remand yn y ddalfa cyn cael ei ddedfrydu.
Xhevit Beti, 41 oed, o Gastell-nedd, wedi'i gyhuddo o gynhyrchu canabis ac mae ar remand yn y ddalfa ar ôl pledio'n euog.
Xhulio Shehaj, 27 oed, o Gaerdydd, wedi'i gyhuddo o gynhyrchu canabis ac mae ar remand yn y ddalfa.