Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Iau, gwnaethom ddathlu 100fed pen-blwydd cyn-ringyll yr heddlu, Howard Arthur, yng ngorsaf heddlu Pontardawe.
Ymunodd Howard, o Gwm Clydach, â'r heddlu yn Ebrill 1952 a gwasanaethodd gymunedau Castell-nedd, Resolfen, Pontarddulais a Chilâ Uchaf. Mae'n cofio beicio o fferm i fferm bob mis i lofnodi llyfrau symudiadau gwartheg.
Wedi ei ddyrchafu yn rhingyll yn 1968, symudodd Howard i mewn i orsaf heddlu Pontardawe gyda'i deulu lle arhosodd nes iddo ymddeol yn 1980. Heddiw, dychwelodd i'w gyn-orsaf gyda'i ddau fab, Wynford a John, i ddathlu ei ganmlwyddiant ac i rannu ei gyfrinachau i aros yn ifanc.
Siaradodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Joanna Maal yn y digwyddiad a rhoddodd anrheg arbennig i Howard ar ran yr heddlu.
Dywedodd:
“Roedd yn braf cwrdd â Howard heddiw yn ei gyn-orsaf ym Mhontardawe a'i glywed yn hel atgofion am wasanaethu cymunedau ar draws ardal orllewinol ein heddlu.
“Mae Howard yn ysbrydoliaeth, ac mae ei brofiadau yn ein galluogi i ddeall pa mor wahanol yw plismona heddiw o gymharu â phan oedd ef ar y rhawd.”