Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Abigail Kavanagh, 25 oed, o Drelái, Caerdydd, ei dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ar 22 Hydref am ei rôl yn masnachu cyffuriau a reolir ar ran grŵp troseddau cyfundrefnol.
Cafodd Kavanagh ei harestio yn ystod ymgyrch wedi'i harwain gan Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol de Cymru.
Ymchwiliad i'r broses o fewnforio symiau cyfanwerthol o gyffuriau Dosbarth A, o'r enw MDMA, y cyfeirir atynt yn aml fel Ecstasi, oedd Ymgyrch Gemstone.
Ar 8 Mawrth 2024, ataliodd swyddogion yr Heddlu Ffiniau ym Maes Awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr becyn a anfonwyd o Awstria a oedd yn cynnwys cyfeiriad cartref Kavanagh arno. Roedd y pecyn yn cynnwys 10 cilogram o MDMA a oedd yn edrych fel halwynau ymolchi. Roedd gwerth posibl ar y stryd y cyffuriau yn £300,000.
Arestiodd swyddogion Tarian Kavanagh yn ei chyfeiriad cartref. Datgelodd adolygiad pellach o'i ffôn symudol ei chyfraniad yn cyflenwi cyffur Dosbarth B, sef Sbeis, i mewn i garchardai ledled de Cymru.
Wrth i Kavanagh gael ei dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd, dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Williams:
“Roeddech yn gwybod eich bod yn chwarae am arian mawr, ac fe golloch chi.”
Cafodd Kavanagh ei dedfrydu i naw mlynedd yn y carchar yn wreiddiol, wedi ei ostwng i saith mlynedd a chwe mis ar ôl pledio'n euog.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rhys Richards o Tarian:
“Roedd Abigail Kavanagh yn aelod allweddol o grŵp troseddau cyfundrefnol. Cafodd y dasg o dderbyn cyffuriau Dosbarth A gyda gwerth posibl ar y stryd o gannoedd o filoedd o bunnoedd. Cafodd hefyd y dasg o drefnu i ddanfon Sbeis i garchardai a chasglu arian parod ar gyfer y grŵp.
“Nid yw troseddwyr sy'n mewnforio a masnachu cyffuriau o amgylch ein cymunedau a'n carchardai yn ystyried y niwed y maent yn eu hachosi. Gwneud elw yw eu hunig fwriad.
“Mae Kavanagh wedi cael dedfryd hir o garchar, sy'n anfon neges glir i'r rhai sy'n dewis ymwneud â'r math hwn o droseddu. Bydd Tarian yn parhau i weithio'n agos gydag asiantaethau partner, gan gynnwys Heddlu'r Ffiniau a'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, i ddefnyddio pob adnodd o fewn ein gallu i ddod â'r troseddwyr hyn o flaen eu gwell.”