Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Anfonodd Jay Murray filoedd o negeseuon testun yn cynnig crac cocên a heroin o fewn un wythnos – er ei fod eisoes ar gyfnod prawf am droseddau yn ymwneud â chyffuriau.
Roedd y dyn 24 oed o Lanilltud Fawr yn defnyddio fflat rhywun arall ger Salisbury Road, Caerdydd, fel safle i ddelio cyffuriau – gan gamfanteisio ar y deiliad a oedd yn dioddef o ganser ar y pryd.
Gwnaeth swyddogion o Uned Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro ganfod fod y llinell cyffuriau yr oeddent yn ymchwilio iddi yn cyfateb i'r rhif ffôn symudol a ddefnyddiwyd gan Murray yn y gorffennol er mwyn cysylltu â swyddogion yr heddlu a swyddogion y gwasanaeth prawf ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar. Gwnaethant arestio Murray ar 2 Hydref 2023 ger y fflat yr oedd yn ei ddefnyddio, ac yn ystod chwiliad o'r eiddo, daeth swyddogion o hyd i grac cocên, cocên, canabis a £1,738 mewn arian parod.
Cafodd Murray ei gyhuddo o ymwneud â chyflenwi heroin a chrac cocên, meddu ar grac cocên gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a meddu ar eiddo troseddol (arian parod). Plediodd yn euog i'r holl droseddau ac ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth 5 Tachwedd i gael ei ddedfrydu.
Hwn oedd y trydydd euogfarn Murray am ddelio cyffuriau sy'n ddedfryd orfodol o saith mlynedd, ond cafodd ddisgownt am bledio'n euog yn gynnar a chafodd ei garcharu am bum mlynedd a chwe mis.