Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cefnogwr pêl-droed wedi cael Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed yn dilyn digwyddiad yn Stadiwm Swansea.com.
Cafodd Sam Bright, o Bentwyn, Caerdydd ei arestio am drosedd trefn gyhoeddus yn y gêm rhwng Dinas Abertawe a Dinas Caerdydd yn Stadiwm Swansea.com y tymor hwn.
Tuag at ddiwedd y gêm, cafodd y dyn 46 oed ei weld yn taflu darnau o arian at gefnogwyr Dinas Abertawe o ardal y cefnogwyr oddi cartref.
Ar 11 Medi, ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Abertawe a phlediodd yn euog i dorri Deddf Pêl-droed (Troseddau) 1991 (Taflu taflegrau at ardal gyfagos i'r cae) a chafodd Orchymyn Gwahardd Pêl-droed am dair blynedd.
Fel rhan o'r gorchymyn, mae Bright wedi cael ei atal rhag mynd i unrhyw gemau o fewn y DU a thramor, a bydd hefyd yn gorfod ildio ei basbort i'r Heddlu cyn pob gêm Cymru oddi cartref.
Mae hefyd wedi ei wahardd rhag mynd i unrhyw dref neu ddinas lle mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd neu dîm Cymru yn chwarae.
Dywedodd PC Christian Evans o Heddlu De Cymru: “Fe wnaeth y mwyafrif helaeth o'r bobl a fynychodd Stadiwm Swansea.com ymddwyn yn gyfrifol a mwynhau profiad diogel.
“Fodd bynnag, os oes tystiolaeth o anrhefn yn gysylltiedig â phêl-droed, rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i'r rheini sy'n gyfrifol er mwyn cymryd y camau priodol.
“Rwy'n gobeithio y bydd y canlyniad llys hwn yn cyfleu neges glir na chaiff ymddygiad tebyg ei oddef yn Stadiwm Swansea.com.”